Back to All Events

Dosbarth Meistr Gemwaith Undydd

Cyfle i greu tlws crog arian gyda’r gemydd Karen Williams.

£65 yn cynnwys te/coffi addas i ddechreuwyr

Dylanwadir ar waith Karen gan y ffurfiau naturiol a geir ar hyd y lan. Byddwch yn defnyddio ffynonellau tebyg i ysbrydoli eich tlws crog ac i archwilio’r broses o greu marciau ar fetel. I ddechrau byddwch yn arbrofi yn defnyddio copr ac yn archwilio amrywiaeth o dechnegau creu gwead. Yna byddwch yn datblygu eich cynllun mewn arian; gyda digon o forthwylio, wedi'i ddilyn gan rywfaint o lifio ar y fainc a sodro arian i gwblhau eich tlws crog.

I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu eich lle (hyn a hyn o le sydd ar gael) ffoniwch Tŷ Pawb ar 01978 292093 neu anfonwch e-bost i oriel.learning@wrexham.gov.uk.

Earlier Event: June 30
Wrecsam yw’r Enw
Later Event: July 27
Clwb Celf Dydd Sadwrn