Back to All Events

Dosbarth Meistr Undydd Peintio Olew

Cyfle i ddarganfod alcemi paent olew gyda Wendy Connelly.

£60 yn cynnwys te/coffi addas i ddechreuwyr

Ymunwch â’r peintiwr byd-enwog, Wendy Connelly, ar gyfer dosbarth meistr undydd yn Oriel Wrecsam.

Mae Wendy wedi bod yn gwneud ei phaent ei hun, gan falu pigmentau a chreu lliwiau ar gyfer ei phalet unigryw, ers ugain mlynedd a mwy. Bydd y dosbarth meistr yn gyflwyniad i dechnegau clasurol gwneud paent olew yn defnyddio pigmentau amrwd, sialc ac olew papi. Byddwch wedyn yn gallu defnyddio’r paent olew gorau sydd ar gael i greu eich llun olew eich hun. Bydd y broses gyffyrddol hon yn eich galluogi i brofi cyfarpar a syniadau di-rif er mwyn cael yr effaith a ddymunir. Dewch â’ch llyfr braslunio efo chi, rhannwch eich syniadau a chofleidiwch gelfyddyd gweithio gyda phaent olew cartref.

Darperir yr holl ddeunyddiau.

Earlier Event: June 7
Bywlunio
Later Event: June 30
Tueddiadau Eginol