Mae Tŷ Pawb yn falch o gyhoeddi Alan Dunn fel yr artist a gomisiynwyd ar gyfer Wal Pawb yn 2022.  

Teitl y prosiect y bydd Alan yn ei ddatblygu fel rhan o’r comisiwn yw ‘FOUR WORDS: RECIPE’, ac mae’n dathlu masnachwyr marchnad Tŷ Pawb. Trwy ddefnyddio cyfosodiad o ffotograffau, bydd Alan yn creu cyfres gyda chanolbwynt penodol ar fasnachwyr bwyd. Gydag Alan, gwahoddir y masnachwyr i greu sloganau pedwar gair neu faniffestos bach a fydd yn amlwg yn y dyluniadau terfynol.

Caiff y prosiect hefyd ei ddatblygu ar y cyd â cherddorion lleol, fel rhagflaenydd i waith pellach gan Alan Dunn a gaiff ei ddatblygu ar gyfer arddangosfa ar thema cerddoriaeth ym mhrif oriel Tŷ Pawb, a gaiff ei lansio ar ddechrau 2023.

Bydd Alan yn dechrau gwaith ar y prosiect ym mis Gorffennaf, a chaiff y gwaith celf terfynol ei ddadorchuddio ym mis Mawrth 2022.

Mae Wal Pawb yn cynrychioli datganiad mentrus am y cydfodoli hwn, a bydd Alan yn myfyrio ar y nifer o ddefnyddiau a defnyddwyr sydd gan yr adeilad, a’r berthynas rhyngddynt yn y gwaith terfynol. Mae’r ddau fwrdd posteri yn nodweddion allweddol o weledigaeth Penseiri Featherstone Young ar gyfer Tŷ Pawb ac maent wedi’u gosod mewn lleoliad canolog yn yr adeilad. Maent yn edrych dros neuadd fwyd a sgwâr marchnad aml-ddefnydd, ar wyneb allanol yr orielau.

Yn cymylu’r llinellau rhwng celf a cherddoriaeth

Meddai Alan Dunn: “Dros y flwyddyn nesaf, rwy’n credu y bydd angen i ni (ail)adeiladu ein cymdeithas o amgylch rhyngweithio ‘analog’ fel archebu bwyd a cherddoriaeth fyw, sydd wedi gwneud i mi feddwl am ddathlu rhai o fasnachwyr bwyd Tŷ Pawb trwy fyrddau ‘ystum seren roc’ llachar, tair rhan. Ymwelais â Thŷ Pawb am y tro cyntaf i weld bwrdd poster hyfryd Kevin Hunt, ac roedd y profiad cyfan a’r awyrgylch yn y lle ac ansawdd uchel y gwaith oedd i’w weld ar y bwrdd poster ac yn yr oriel yn hollol unigryw. Mae fy ngwaith yn cynnwys pylu’r llinellau rhwng celf, cerddoriaeth, byrddau poster a chwaraeon ac ati, sy’n fy ngwneud yn gyffrous iawn o fod yn gweithio gyda’r tîm a’r gymuned yn Nhŷ Pawb ar FOUR WORDS: RECIPE.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb, Jo Marsh: “Mae byrddau posteri Wal Pawb yn gonglfaen ar gyfer Tŷ Pawb. Mae’r gwaith celf a gweithgareddau ymgysylltu cysylltiol yn cynrychioli cymaint o agweddau ar ein cenhadaeth ac mae cynnig Alan yn adlewyrchu hyn. Rydym yn falch o gael Alan yn gweithio gyda ni i ddatblygu’r pedwerydd comisiwn.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn dymuno’n dda iawn i Alan gyda’i brosiect ar gyfer pedwerydd comisiwn Wal Pawb ac rydym yn aros yn gyffros am y gwaith celf terfynol a fydd yn gyfraniad pwysig i animeiddio neuadd farchnad Tŷ Pawb.”


Astudiodd Alan Dunn (ganed Glasgow 1967) gelf cymunedol a chyhoeddus yn y Glasgow School of Art a’r Art Institute of Chicago ac mae’n ddarlithydd Celf a Dylunio ym Mhrifysgol Leeds Beckett bellach. Mae Dunn yn seiliedig yn Ninas-Ranbarth Lerpwl ers 1995, ac mae’n datblygu prosiectau ar raddfa fawr ar gyfer y parth cyhoeddus, o Brosiect Bwrdd Poster Gorsaf Bellgrove (Glasgow), i RAY + JULIE (gwaith celf cyhoeddus gyda Brigitte Jurack, Lerpwl) a tenantspin, Sianel Deledu Rhyngrwyd wedi’i harwain gan y gymuned a ddatblygwyd gyda FACT, Superflex a thenantiaid adeiladau uchel ar draws y ddinas. 

Mae Dunn wedi cydweithio gyda nifer o asiantaethau a sefydliadau gan gynnwys Big Issue yn y gogledd, Wirral Drug Rehab, The Great North Run, Channel 4, Tate Britain, European Special Olympics a BBC Radio 3, a thrwy’r prosiectau hyn, mae wedi cyflwyno cynnwys gyda a gan David Bowie, Yoko Ono, Bikini Kill, Kraftwerk a chyn saethwr LFC, David Fairclough. 

Yn 2012 fe’i enwebwyd ar gyfer Gwobr Celf Lerpwl ac ar hyn o bryd mae’n cydweithio gyda Bluecoat a Belong ar brosiect pedair blynedd sy’n cyflwyno celf sain gyfoes i gartrefi gofal dementia. Mae Dunn yn rhedeg y label celf sain cantaudio ac mae’n gyd-sylfaenydd Stiwdio a Gofod Prosiect Alternator ym Mhenbedw. Yn 2016 dechreuodd ei gyfres o brosiectau FOUR WORDS, sy’n dod ag artistiaid ac aelodau’r cyhoedd ynghyd i gyfansoddi pedwar gair yn seiliedig ar themâu penodol i’w cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd trwy fyrddau poster electronig, cyhoeddiadau, hysbysebion teledu, neu fel gyda’r FOUR WORDS: WIRRAL diweddar, gwefan Realiti Estynedig newydd ar gyfer ffonau symudol.