Bydd arddangosfa ‘Sean Edwards’ ar gyfer Biennale Fenis yn agor yn y Senedd yng Nghaerdydd yr haf hwn. Dyma’r tro cyntaf i’r gwaith gael ei ddangos yn nhref enedigol yr artist yng Nghaerdydd.

Comisiynwyd Tŷ Pawb fel y prif sefydliad sy’n cyflwyno’r arddangosfa i Gymru yn Fenis 2019, ynghyd â’r artist Sean Edwards a’r curadur annibynnol Marie-Anne McQuay.

Mae Cymru yn Fenis wedi’i gynllunio i fod yn blatfform ar gyfer celf weledol o Gymru yn La Biennale, un o arddangosfeydd celf enwocaf y byd, a gynhelir yn Fenis bob dwy flynedd.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Yn dilyn ei gyflwyniad yn Fenis, daeth ‘Undo Things Done’ wedi’i ail-weithio i Dŷ Pawb ar ddechrau 2020 cyn teithio ymlaen i Bluecoat, Lerpwl.

Mae’r sioe yn tynnu ar brofiad ‘Edwards’ o dyfu i fyny ar ystâd gyngor; dal a chyfieithu’r hyn y mae’n ei alw’n amod o ‘beidio â disgwyl llawer’ i iaith weledol a rennir; un sy’n dwyn i gof ffordd o fyw sy’n gyfarwydd i nifer fawr o bobl.

Bydd y cyflwyniad yn y Senedd yn cynnwys nifer o’r gweithiau a arddangosodd yn Bluecoat, gan gynnwys cwiltiau Cymru, printiau ac ail-waith o’i waith sainRefrain, drama radio a gomisiynwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru 2019 a ysgrifennwyd ar gyfer ac a berfformiwyd gan fam Edward, Lily Edwards.

Bydd y sioe ar agor yn Oriel Gyhoeddus y Senedd o ddydd Llun 26 Gorffennaf tan ddydd Sul 5 Medi.

Comisiynwyd Undo Thngs Done gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar achlysur yr 58fed Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia – yr arddangosfa celfyddydau gweledol fwyaf yn y byd, gyda’r partner arweiniol Tŷ Pawb, Wrecsam a’n curadur gwadd, ein Pennaeth Rhaglen Marie -Anne McQuay. Gyda chefnogaeth y Gronfa Gelf, Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston, Cymdeithas Celfyddydau Cyfoes Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Eliffant. Partner cynhyrchu National Theatre Wales. Partneriaid taith y Bluecoat a Senedd / Senedd Cymru.