Mae marchnad a neuadd fwyd Tŷ Pawb ar agor o 10am tan 4pm, ddydd Llun i ddydd Sadwrn – gydag ychydig o fasnachwyr y neuadd fwyd yn cynnig prydau tecawê tan 6pm.

Mae’r maes parcio hefyd ar agor a, gorau oll, cewch barcio yn RHAD AC AM DDIM!

Mae’r toiledau hefyd ar agor gyda mesurau diogelwch yn eu lle.

Mae system unffordd ar waith ac mae nifer y bobl sy’n cael bod i mewn yn yr adeilad ar yr un pryd wedi’i gyfyngu. Mae’r fynedfa ar Stryt y Farchnad ac mae’r allanfa drwy faes parcio Stryt y Farchnad (ramp ar gael).

Mae mannau diheintio dwylo ar gael wrth ymyl y fynedfa ac mae posteri cadw pellter cymdeithasol wedi’u gosod o gwmpas yr adeilad. Mae yna hefyd aelod o staff wrth y fynedfa i ddarparu arweiniad ac i ateb unrhyw gwestiwn.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, “Mae’n newyddion ffantastig fod Tŷ Pawb, y Farchnad Gyffredinol a Marchnad y Cigyddion wedi ailagor i’r cyhoedd. Mae’r timau yn Nhŷ Pawb a’r marchnadoedd eraill yng nghanol y dref wedi bod yn gweithio’n ddiflino i sicrhau diogelwch masnachwyr ac ymwelwyr. Bydd y marchnadoedd a Thŷ Pawb yn edrych ychydig yn wahanol. Bydd systemau unffordd yn weithredol, gorsafoedd diheintio dwylo a bydd staff wrth law i ateb unrhyw gwestiynau. Fe hoffwn i ddiolch i’r holl fasnachwr a staff am weithio mor galed i sicrhau y gallant agor i’r cyhoedd yn ddiogel”.

Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd, “Dyma newyddion gwych i’n masnachwyr sydd, wrth reswm, wedi bod yn poeni am eu busnesau ers dechrau’r cyfnod clo ym mis Mawrth. Mae’n golygu bod modd iddyn nhw agor eu busnesau unwaith eto, ac rydym ni wedi bod yn cynllunio ar gyfer hyn yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.”

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb