Mae Tŷ Pawb wedi derbyn achrediad Sicrwydd Ansawdd Atyniad gan Croeso Cymru yn dilyn asesiad diweddar.

Mae’r asesiad a’r achrediad yn adlewyrchu profiad yr ymwelwyr, ansawdd y cynnyrch a’r gwasanaethau a gynhigir gan yr atyniad a’r staff.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb am Tŷ Pawb, “Mae hyn yn newyddion ardderchog, ac mae’n haeddiannol iawn. Mae’n destament i’r weledigaeth a oedd gennym nifer o flynyddoedd yn ôl, i drawsffurfio neuadd farchnad a oedd yn ei chael hi’n anodd, yn atyniad i gyfuno marchnadoedd, celfyddyd a’r gymuned, a fyddai’n cynnig lle croesawgar i bobl o bob oed a diwylliant.

“Mae Tŷ Pawb yn cydnabod treftadaeth Wrecsam, sydd i’w weld yn amlwg yn nifer o’i arddangosfeydd, yn ogystal â cheisio cefnogi a meithrin talentau a busnesau newydd sy’n cael eu cynhyrchu yn Wrecsam.

“Hoffwn ddiolch i’r masnachwyr, staff ac ymwelwyr sydd wedi cyfrannu at y gydnabyddiaeth hon gan Croeso Cymru. Rwy’n gwybod fod ganddynt oll olwg gadarnhaol iawn ac mae eu hagwedd benderfynol a’u creadigrwydd wedi helpu i ffurfio’r lleoliad unigryw sy’n perthyn i Tŷ Pawb heddiw.”

Ymwelodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, â Tŷ Pawb yn ddiweddar a dywedodd: “Ar ôl gweld beth sydd gan Tŷ Pawb i’w gynnig, hoffwn longyfarch tîm Tŷ Pawb ar eu hachrediad diweddar gan Croeso Cymru – tîm haeddiannol. cydnabyddiaeth am ansawdd profiad yr ymwelydd. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo gyda’r daith o drawsnewid y gofod hwn yn ganolbwynt bywiog o weithgarwch ar gyfer y gymuned ac ymwelwyr.”

Ers agor yn 2018, mae’r lleoliad wedi mynd o nerth i nerth, gan ennill nifer o wobrau ar hyd y ffordd. Eleni, cyrhaeddodd Tŷ Pawb rownd derfynol cystadleuaeth Amgueddfa’r Flwyddyn, y Gronfa Gelf. Cafodd ei gydnabod fel cyrchfan o safon yn genedlaethol a rhyngwladol, ac mae’n denu ymwelwyr ac artistiaid o bell ac agos.

Mae 30 masnachwr annibynnol wedi’u lleoli yno, a gwerthir cynnyrch lleol gan fasnachwyr marchnad ac yn ei neuadd fwyd brysur. Mae yno oriel gelf o safon uchel, sydd ar hyn o bryd yn arddangos Arddangosfa Agored Tŷ Pawb, sy’n cynnwys gwaith gan dros 150 artist ar draws y wlad, sy’n gweithio mewn ystod o gyfryngau gan gynnwys paent, print a cherfluniau.

Mae lle yno i bawb a chynhelir digwyddiadau arbennig yno’n rheolaidd, gan gynnwys marchnadoedd dros dro, ffeiriau crefftau, cerddoriaeth fyw a chwaraeon. Bydd yn barth i gefnogwyr pan fydd Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd.

Ar y cyfan, mae’n ddiwrnod gwych i siopwyr ac ymwelwyr o bob oed.

Darganfod mwy am digwyddiadau i ddod