Manon Awst

  • O ble rydych chi’n dod?

Rydw i’n byw yng Nghaernarfon ar hyn o bryd, ac wrth fy modd bod rhwng y mynyddoedd a’r môr.

  • Ers faint ydych chi wedi bod yn arlunydd?

Artist ydw i wedi bod erioed am wn i, ers dechrau llenwi llyfrau braslunio yn yr ysgol. Ond ar ôl astudio pensaerniaeth yng Nghaergrawnt, symudais i fyw i Berlin a gweithio ar brosiectau celf llawn amser.

  • Sut mae’r Cyfnod Clo wedi effeithio ar y ffordd rydych chi’n gweithio?

Mae’r cyfnod clo wedi effeithio pawb a phopeth, ac yn sicr wedi dylanwadu ar fy ngwaith – rydw i wedi bod yn ymateb yn uniongyrchol i fy amgylchedd dydd-i-ddydd, a chreu ffilmiau bach arbrofol fel ffordd o ddatblygu syniadau.

  • Ble ydych chi’n cael y pleser mwyaf yn eich gwaith?

Mae darganfod cysylltiadau newydd a haenau o ystyr mewn safle bensaernïol neu dirlun yn
fy nghyffroi.

  • Pa argraff ydych chi am i’ch gwaith ei wneud ar gynulleidfaoedd?

Fy ngobaith trwy fy ngwaith yw sbarduno chwilfrydedd pobl am leoliad neu sefyllfa sydd, dros amser, wedi disgyn i’r cefndir. Hynny yw, weithiau mae’n bosib gweld sefyllfa gyfarwydd yn hollol wahanol drwy newid ychydig ar y ffrâm neu bersbectif, fel bod y berthynas rhwng pobl, safleoedd a deunyddiau yn cael ei hysgwyd am ennyd.

dychwelyd i'r arddangosfa Tŷ Pawb Agored
Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google