Estelle Woolley

Mae posteri Arddangosfa Agored Tŷ Pawb eleni yn cynnwys gwaith Estelle Woolley, sydd â thri darn o waith yn yr arddangosfa. Fe gawsom ni sgwrs fach ddiddorol efo Estelle yn ddiweddar, a gofyn ychydig o gwestiynau iddi…
  • O ble rydych chi’n dod?

Cefais fy magu ar fferm laeth mewn pentref bach o’r enw Acton yn Swydd Caer, a dyna lle rydw i wedi bod yn aros am y rhan fwyaf o’r flwyddyn hon yn ystod y cyfnod clo. Rwyf wedi byw yng Nghaer am y deng mlynedd diwethaf lle astudiais ar gyfer fy Ngradd a Meistr mewn Celf Gain.

  • Ers faint ydych chi wedi bod yn arlunydd?

Nôl ac ymlaen am oddeutu 10 mlynedd ers i mi orffen fy ngradd Celf Gain, ymhlith gwaith arall nad yw’n gysylltiedig â chelf. Cyn y clo, roeddwn i’n gweithio’n rhan amser fel Grîn-groser, Aelod o’r Panel Synhwyraidd, Gwerthwr Blodau, ac yn darparu gweithdai Celf a Cherdd yn y gymuned leol. Roedd bod dan glo eleni yn golygu y gallwn ail-ganolbwyntio ar fy ymarfer artistig.

Mewn blynyddoedd blaenorol, cefais gefnogaeth gan Gyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer i greu gosodiadau safle-benodol yn King Charles Tower Gardens, Castell Caer ac yng Ngŵyl Now: Northwich. Roedd y rhain yn gerfluniol ac yn dra gwahanol i’r hyn rydw i wedi bod yn gweithio arno eleni, ond mae’n ymddangos bod fy niddordeb pennaf mewn casglu gwrthrychau diddorol a’u trawsnewid wedi parhau.

  • Sut mae’r Cyfnod Clo wedi effeithio ar y ffordd rydych chi’n gweithio?

Mae’r pandemig wedi dylanwadu ar y pwnc, y broses wneud a phroses arddangos fy nghorff gwaith diweddar, ‘Mygydau Natur y Pandemig’. Cyfres o ffotograffau yw’r rhain a luniwyd yn wreiddiol ar gyfer comisiwn gyda Chester Virtual Bandstand, lle roedd briff am greu gwaith a ysbrydolwyd gan Covid. Rwy’n cofio ar y pryd (wythnos gyntaf y cyfnod clo yn ôl ym mis Mawrth), nad oedd masgiau hyd yn oed yn beth eto, ac ni chawsant eu gwneud yn orfodol mewn siopau tan ychydig fisoedd ar ôl i mi ddechrau gwneud y delweddau.

Gyda mynediad cyfyngedig i’m stiwdio yn ystod y cyfnod clo, roedd cyfyngiad ar fy nefnydd o ddeunyddiau a phenderfynais ddefnyddio’r hyn y gallwn ddod o hyd iddo o’m cwmpas yn ystod fy nheithiau cerdded bob dydd. Fe wnes i addasu i’r sefyllfa ac rydw i wedi cael fy hun yn arddangos ac yn hyrwyddo fy hun trwy sawl platfform ar-lein.

  • Ble ydych chi’n cael y pleser mwyaf yn eich gwaith?

Mae fy nghorff gwaith diweddar yn cynnwys chwilota a dod ar draws deunyddiau i’w defnyddio o bosibl i greu fy mhortreadau masg. Rwy’n cael y pleser mwyaf o ddarganfod planhigion a gwrthrychau newydd i’w defnyddio ar gyfer fy masgiau. Mae’r weithred o edrych yn agos ar y byd naturiol wrth i’r tymhorau newid yn rhoi ymdeimlad gwych o foddhad i mi. Os nad wyf yn gwybod beth yw rhywbeth yr wyf yn dod ar ei draws ar fy nheithiau, rwy’n ei sganio ar ap o’r enw ‘Picture This’ ac yn dysgu enw’r planhigyn a’i ddefnydd. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn dysgu beth all gwahanol blanhigion ei wneud i’r corff, neu’r cysylltiadau sydd gennym gydag o. Er enghraifft, wrth ddarganfod camri gwyllt eleni, nid yn unig y gwnes fwgwd o’r blodau ond fe wnes ei yfed fel te gyda’r nos i ymlacio. Uchafbwynt arall oedd darganfod afalau derw a pincas robin, tyfiannau gwahanol ar goed a achosir gan gacwn parasitig. Doeddwn i erioed wedi sylwi ar unrhyw un o’r pethau hyn o’r blaen. Mae trawsnewid y deunyddiau hyn yn gelf ac yn ffotograffau yn eu dal mewn eiliad o amser, gan eu bod yn fyrhoedlog. 

Rwyf hefyd yn falch iawn o rannu’r gwaith â chynulleidfaoedd ar-lein a derbyn adborth mor gadarnhaol, yn enwedig pan gysylltir â mi yn uniongyrchol a chael gwahoddiad i arddangos mewn arddangosfa neu gylchgrawn. Mae arddangos ar-lein yn gysyniad newydd i mi, ond cyn eleni dim ond yn y ffordd draddodiadol yr oeddwn wedi dangos gwaith. Un o fy uchafbwyntiau oedd i’r New York Magazine gysyllytu yn gofyn am gynnwys un o fy nelweddau yn eu herthygl ar fasgiau. Cysylltodd papur newydd o Ddenmarc, Politiken, â mi ar gefn hynny am gynnwys y delweddau yn eu papur newydd. Cyrhaeddodd fy ngwaith hefyd glawr blaen y cyhoeddiad Gwobr Celf Sustainability First, ac wrth gwrs roeddwn wrth fy modd iddo gael ei ddewis fel delwedd y clawr ar gyfer Tŷ Pawb Agored. 

  • Pa argraff ydych chi am i’ch gwaith ei wneud ar gynulleidfaoedd?

Hoffwn dynnu sylw at harddwch natur ac i gynulleidfaoedd wneud y berthynas rhwng natur, iechyd a lles. Mae angen planhigion arnom er mwyn byw; maent yn cynhyrchu ocsigen fel y gallwn anadlu drwyddynt. Hoffwn hefyd i’r gwaith ddod drosodd fel rhywbeth dyrchafol yn y flwyddyn heriol yr ydym wedi’i chael.

dychwelyd i'r arddangosfa Tŷ Pawb Agored
Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google