Ym mis Ebrill eleni, roeddwn yn ddigon ffodus i fod yn un o’r saith o artistiaid creadigol a gafodd eu dewis gan Tŷ Pawb i greu Aseiniad Creadigol, fel rhan o’u rhaglen Celf Cartref a gafodd ei hysbrydoli gan y cyfnod clo.

Mae fy ngwaith i, ynghyd â chwe aseiniad creadigol arall, yn ffurfio cymysgedd eclectig arbennig: dylunio a chreu llyfr; creu fideo; perfformio; creu gludlun; adeiladu cuddfan; a chynhyrchu a cherfio sebon.

Fy mhrosiect i yw gwneud stori (mae modd i chi gyfuno’r prosiect hwn â’r prosiect gwneud llyfr, gludwaith neu fideo), ac yn yr un modd â’r prosiectau eraill, mae’n ymwneud ag annog ac ysbrydoli pobl i fod yn greadigol  – yn fy achos i, ysgogi pobl i ysgrifennu am (neu dynnu llun o) eich hoff bethau am fod yn yr awyr agored ac yn egnïol. Nod fy aseiniad – Straeon Gwerin Creadigol – yw darparu canllawiau, ffynhonnell o ysbrydoliaeth, a fframwaith i straeon i alluogi plant, teuluoedd, a phobl o bob oedran i greu chwedl newydd, wedi’i lleoli yn Wrecsam a’r cyffiniau.

Roedd y dyddiad lansio gwreiddiol ar gyfer fy aseiniad rhyw dro ym mis Mai neu Fehefin, ond ar 21 Mehefin, camodd ffawd i’r adwy.

Bydd y dyddiad hwn yn aros gyda mi am byth – roedd hi’n Sul y Tadau ac yn ddydd Gŵyl Ifan. Am 6:30am, roeddwn yn sefyll y tu allan yn barod i fynd â’m cŵn am dro, a’r munud nesaf, cefais strôc ddifrodol. Byddai’r strôc wedi bod yn llawer gwaith pe na bai’r cŵn wedi synhwyro’r sefyllfa a dechrau cyfarth, gan ddeffro fy ngwraig. Fe wnaeth hi ffonio 999 ar unwaith. Erbyn 9.30am, roeddwn yn y theatr llawdriniaethau yn Ysbyty Brenhinol Stoke yn Stoke-on-Trent yn derbyn llawdriniaeth brys i dynnu clot gwaed mawr a oedd yn rhwystro gwaed rhag llifo i ochr chwith fy ymennydd. Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus: erbyn y diwrnod canlynol, roeddwn yn ôl ar fy nhraed yn ymarfer cerdded i fyny ac i lawr y grisiau, a chefais fynd adref yn hwyrach yn y diwrnod. Bues yn hynod o lwcus, diolch i’r cŵn, fy ngwraig, ac wrth gwrs, tîm arbennig y GIG.

Rwyf dal yma i ddweud yr hanes a bron wedi gwella’n llwyr, oni bai am y graith emosiynol y mae wedi’i gadael arnaf – nid bob dydd y mae rhywun yn dod mor agos i wyneb marwolaeth – ac rwy’n falch o ddweud fy mod wedi dychwelyd i’m gwaith fel Rheolwr Arloesedd ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam.

Mae cydweithwyr yn y Brifysgol wedi bod yn gefnogol iawn, yn ogystal â’r cydweithwyr yn Tŷ Pawb, a oedd yn ddigon caredig i ohirio fy aseiniad creadigol am ychydig fisoedd, ac yn fodlon rhoi cyfle arall i mi a’m Chwedlau Creadigol. Mae’n anodd ei roi mewn geiriau pa mor werthfawrogol ydwyf o’r cyfle hwn i nodi fy adferiad drwy ddarparu’r aseiniad hwn fel y trefnwyd.

Nid wyf wedi cyflawni’r prosiect hwn ar fy mhen fy hun chwaith – pan oeddwn yn llunio’r cynnig ar gyfer yr aseiniad ym mis Ebrill – comisiynais gefnogaeth gan ddau unigolyn creadigol lleol: yr arlunydd a’r darlunydd, Emma Ford; a’r adroddwr straeon poblogaidd, Fiona Collins.

Roeddwn yn adnabod Emma o’r Brifysgol, roedd hi’n astudio celf yn Stryt y Rhaglaw, ac mae hi bellach wedi cynhyrchu darluniadau hyfryd ar gyfer eich chwedlau: Ungorn, Corrach Llawn Cyffro, Tywysoges Ryfelgar; dau Fochdew Gormesol, a mwy. Gallwch weld rhagor o gelf a dyluniadau Emma ar www.emmafordart.com.  Mae Emma’n llofnodi ei gwaith â’i blaenlythrennau, E.L.F, sy’n berthnasol iawn i’r aseiniad hwn.

Mae Fiona wedi recordio fideo o’i hun (yn Gymraeg) yn edrych yn ôl ar hen chwedl o Wrecsam yn nyddiau llys y Brenin Arthur. Mae gwrando ar Fiona’n siarad fel gwrando ar gerddoriaeth, gyda’i harddull barddonol a cherddorol.

Felly, mae fy aseiniad bellach yn barod ac yn fyw. Os oes gennych chi stori i’w hadrodd fyddai’n gweithio’n dda mewn fformat chwedl, byddem wrth ein boddau pe baech yn ei rhannu â ni ac yn cymryd rhan yn yr Aseiniad Creadigol diweddaraf. Yn sicr, mae gennyf waith ysgrifennu fy chwedl bersonol i, ond mae un peth yn siŵr, rwy’n gwybod yn iawn beth fydd y diweddglo; “a bu iddo fyw’n hapus byth wedi hynny”.

Ein diolch i Peter am rannu ei stori gyda ni. Gallwch chi gymryd rhan yn Aseiniad Creadigol Peter, Straeon Gwerin Creadigol, yma.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb