DIWEDDARIAD: Mae’r sesiynau hyn bellach wedi gwerthu allan! Ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn newyddion am weithdai yn y dyfodol.

Ar gyfer artistiaid a gwneuthurwyr sydd am rannu eu harferion a dysgu sgilliau ar-lein i bobl o bob oedran. Bydd y sesiynau rhyngweithiol ac ymarferol hyn yn eich tywys drwy y cynllunio, paratoi ac ymarferol i’ll galluogi i arwain dosbarthiadau creadigol llawn hwyl a hawdd eu defnyddio a fydd yn ysbrydoli ac yn dal sylw eich cynulleidfa.

Bydd y sesiynau hyn, o greu fideo byr a gweithgareddau wedi eu recordio yn barod i arwain gweithdai creadigol fyw, rhyngweithiol drwy zoom, yn rhoi yr holl adnoddau a’r hyder yr ydych ei angen i gychwyn rannu eich crefft ar lein!

Caiff y sesiynau eu cynnal ar-lein trwy Zoom. Bydd manylion yn cael eu hanfon atoch ar ol i chi archebu eich lle.

CREU GWEITHGAREDDAU A RECORDWYD O FLAEN LLAW

Ebrill 20fed, 12:30 – 2:30

a

Sadwrn 1af Mai, 10:00 – 12:00

Yn ystod y sesiwn hyfforddi 2 awr hwn, bydd Rhi yn eich arwain drwy y broses o gynllunio, ffilmio a golygu gweithgareddau creadigol a recordwyd yn barod bydd yn sbarduno eich cynulleidfa i greu!

O ddarnau bach wedi eu selio ar Tik Tok, i fideos araf, meddylgar, byddwch yn dysgu sut i sicrhau bod y cynnwys o fewn cyrraedd pawb ac yn apelgar, a sut i gadw diddordeb eich cynulleidfa er mwyn iddynt gwblhau prosiect creadigol gartref. Byddwch yn dysgu sut i olygu ac uwchlwytho eich gwaith a gwybod y llwyfannau gorau i apelio at wahanol cynulleidfaoedd, yn ogystal a sut i dorri gweithgaredd i lawr mewn modd bydd yn haws i bobl gartref ei ddeall.

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch wedi cynllunio campwaith a bydd ganddoch yr holl wybodaeth ymarferol sydd ei angen i gynnal dosbarthiadau creadigol! Yn ychwanegol i’r sesiwn 2 awr byddwch hefyd yn derbyn gwerslyfr digidol i’ch cynorthwyo a’ch arwain drwy y broses o gynllunio eich sesiwn, cam wrth gam, gyda nifer adnoddau arlein ychwanegol a syniadau da!

Archebu

DECHREUWCH ARNI! SUT I ARWAIN GWEITHDAI CREADIGOL RHYNGWEITHIOL EGNIOL….YN FYW! 

Gyda phwylais ar ddenu oedolion bregus.

Dydd Sadwrn 24ain Ebrill, 10:00 – 12:00

a

Dydd Mawrth 27ain Ebrill, 12:30 – 2:30

Yn ystod y sesiwn hyfforddi 2 awr hwn, bydd Rhi yn eich arwain drwy y broses o gynllunio, paratoi a chreu gweithdy creadigol llawn hwyl a diddorol ar zoom sy’n hawdd ei ddeall ac yn ysbrydoledig.

Byddwch yn dysgu sut i rannu eich gweithgaredd mewn ffordd hawdd i ddilyn bydd yn dysgu sgiliau, diddordeb a hyder. Byddwch yn ennyn sgiliau i fagu creadigrwydd ym mhawb, beth bynnag yw eu profiad a gallu, a sicrhau eich bod yn ystyried anghenion hygyrchiol, yn enwedig wrth weithio gydag oedolion bregus.

Byddwch yn canfod dealltwriaeth ymarferol i’r ochr dechnegol o gynnal sesiynau arlein, yn ogystal a sut i sicrhau diogelwch wrth arwain gweithdai ar zoom. Ar ddiwedd y sesiwn byddwch ar ben y ffordd i gynnal gweithdai creadigol cyffrous a gafaelgar arlein a bydd gennych gweithlyfr cynhwysfawr a fydd o gymorth pan fyddwch yn ystyried y canllawiau nesaf.

Bydd y sesiynau hyn yn gyfle gwych i gyfarfod pobl eraill creadigol a rhannu syniadau a sylwadau wrth gynnal gweithdai a chael ysbrydoliaeth i gynnal sesiynau arlein!

Caiff y sesiynau eu cynnal ar-lein trwy Zoom. Bydd manylion yn cael eu hanfon atoch ar ol i chi archebu eich lle.

Archebu