- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Tŷ Pawb – Cristo Harijan Datganiad Piano
Medi 4 @ 1:00 pm - 2:00 pm
Matinée: Cyngherddau Clasurol a Chyfoes Tŷ Pawb
04 Medi 2024 – 1:00pm – 2:00pm
Cristo Harijan – Datganiad Piano
Mae ein rhaglen haf 2024 o gyngherddau clasurol a chyfoes amser cinio ar y gweill sydd yn cynnwys perfformiadau cerddoriaeth fyw gan ystod amrywiol o gerddorion a genres. Gallwch fynychu’r cyngerdd yn ddigymell ar eich egwyl ginio, mae’r rhaglen yn para 45 i 55 munud ac yn aml yn arddangos cerddoriaeth siambr, datganiadau piano unigol, cerddoriaeth werin, gitâr glasurol a deuawd clasurol. Mae’r perfformiadau bob yn ail ddydd Mercher rhwng 1pm a 2pm yn ein Lle Perfformio, mae mynediad trwy roddion.
Fel y byddech yn ei ddisgwyl mewn cyngerdd amser cinio, bydd ein llys bwyd ar agor gyda amrywiaeth o gynigion bwyd a diod blasus. Efallai y byddwch hefyd am wneud amser i ymweld â’r oriel cyn neu ar ôl y cyngerdd.
Ganed Cristo yn Efrog Newydd, a dechreuodd Cristo ei daith gerddorol yn perfformio caneuon artistiaid gwledig Americanaidd gwych fel Johnny Cash ar y gitâr o 4 oed, ac yn 9 oed penderfynodd Cristo gysegru ei fywyd i’r piano. Ers hynny mae wedi datblygu repertoire trawiadol, gyda phwyslais arbennig ar weithiau o’r cyfnod Rhamantaidd.
Ar ôl symud i’r DU derbyniwyd Cristo i Ysgol Cerddoriaeth Chethams yn 2015, yno sylwodd pennaeth bysellfwrdd Murray Mclachlan ar unwaith am ei ‘ragoriaeth danllyd’, a gymerodd ef ymlaen fel myfyriwr. Parhaodd Cristo â’i astudiaethau gyda Murray yn yr RNCM lle graddiodd gyda 1af yn 2023, gan dderbyn canmoliaeth bendant yn dilyn ei ddatganiad olaf – rhaglen aruthrol gan gynnwys Bach, Busoni Chaconne a B minor sonata Liszt. Yn ystod ei gyfnod yn yr RNCM perfformiodd Cristo lawer o gyngherddau mewn lleoliadau sefydledig gan gynnwys Neuadd Bridgewater, Tŷ Opera Buxton, ac Eglwys Sant James Piccadilly, ac yn Llundain. Cafodd Cristo gyfle hefyd i weithio’n uniongyrchol gyda phiayddion blaenllaw fel Stephen Hough, Jean-Efflam Bavouzet a Roberto Plano.
Yn 2022 cafodd Cristo flas ar gydnabyddiaeth ryngwladol pan gyrhaeddodd drwodd i rownd derfynol ei gystadleuaeth biano gyntaf, Cystadleuaeth Ryngwladol Krogulski yng Ngwlad Pwyl. Ers hynny derbyniodd 3ydd yng nghystadleuaeth cerddoriaeth ryngwladol Làszlò Spezzaferri yn yr Eidal, a phasiodd i rownd derfynol gwobr datganiad Mark Ray yr RNCM ddwy flynedd yn olynol, gan ei hennill yn 2023.
Manylion
- Dyddiad:
- Medi 4
- Amser:
-
1:00 pm - 2:00 pm
- Categori Digwyddiad :
- Digwyddiadau
Lleoliad
- Tŷ Pawb
-
Market St
Wrexham, Wrexham LL13 8BB + Google Map - Phone
- 01978 292144
- View Lleoliad Website
Related Digwyddiadau
Newyddion diweddar
- Tŷ Pawb gwyrddach – Eich llais chi yn ein dyfodol
- Gwnewch gais nawr am stondin ym Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam
- Dewch yn fasnachwr yn Tŷ Pawb
- Plant ysgol yn creu clytweithiau trawiadol wedi’u hysbrydoli gan Gwilt Teiliwr Wrecsam
- Galwad Agored i artistiaid – Cyflwynwch eich gweithiau ar gyfer Arddangosfa Agored Tŷ Pawb
Categorïau newyddion
Archifau newyddion
- Awst 2024
- Gorffenaf 2024
- Mehefin 2024
- Mai 2024
- Mawrth 2024
- Ionawr 2024
- Rhagfyr 2023
- Medi 2023
- Awst 2023
- Gorffenaf 2023
- Mehefin 2023
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffenaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffenaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffenaf 2020
- Mehefin 2020