
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Diwrnod Rhyngwladol y Merched
Mawrth 8 @ 10:00 am - 3:00 pm

Digwyddiad Partneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Heddlu Gogledd Cymru
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Wrecsam i anrhydeddu ac amlygu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Eleni rydym yn dathlu’r holl waith caled a wneir gan gwmniau, sefydliadau ac elusennau lleol i gefnogi a grymuso merched yn Wrecsam.
Mae’n cael ei gynnal ddydd Mercher, 8 Mawrth yn Tŷ Pawb rhwng 10am a 3pm.
Ymysg y llawer o bethau a gynigir fydd cyfle i wybod mwy am yr holl welliannau a wnaed i sicrhau bod merched yn ddiogel ac yn teimlo’n ddiogel yn Wrecsam, yn arbennig fin nos.
Bydd Freedom Leisure yn cynnal sesiwn Zumba a byddant yn hyrwyddo tocyn 7 diwrnod am ddim i bob Canolfan Hamdden a chofrestru am ddim i ferched.
Bydd dros 20 o stondinau yn cael eu gosod a bydd yna gerddoriaeth a barddoniaeth gan Natasha Borton a bwyd a lluniaeth am ddim ar gael yn y neuadd fwyd.
Dyma restr lawn o bwy fydd yno.
Parallel Security – Recriwtio merched i fynd i farchnad yr Economi Fin Nos
Y Cynllun Lleoedd Diogel – Codi ymwybyddiaeth ynglŷn â Lleoedd Diogel Cofrestredig yn Wrecsam
Tîm Heddlu Lleol Heddlu Gogledd Cymru – Diogelwch Cymunedol a’r hyn a wnaed i wella diogelwch merched yn Wrecsam, yn enwedig yn ystod oriau’r nos.
Moneypenny – Cyfleoedd recriwtio i ferched.
Coleg Milwrol Paratoadol Wrecsam – Cyfleoedd ar gael i hyfforddi ar gyfer mynd i’r gwasanaethau milwrol.
Cerrig Camu – Gwasanaeth cwnsela proffesiynol i oedolion sydd wedi goroesi camdriniaeth rywiol yn eu plentyndod
RASAC – Cyngor a chymorth ar gael gan Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol Gogledd Cymru a fydd hefyd â stondin Iechyd Rhywiol/Cynllunio teulu.
DASU – Uned Diogelwch Cam-drin Domestig
Y Tîm Cydlyniant – Lluniau proffil o grŵp amrywiol o ferched sy’n angerddol ynglŷn â dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, gan amlygu’r gwaith gwych maent yn ei wneud yn eu cymunedau lleol.
Dechrau’n Deg Cyngor – a chefnogaeth cyn geni/Mamolaeth ar gael yn genedlaethol a lleol.
Pobl Ifanc Egnïol – Heriau sboncio cyflym gyda gwobrau
Freedom Leisure – Sesiwn Zumba a chynnig o docyn 7 diwrnod rhad ac am ddim i’r holl Ganolfannau Hamdden a ffi cofrestru ar gyfer aelodaeth am ddim i ferched.
Strydoedd Mwy Diogel – Cewch wybodaeth am y cynllun Braf Bob Nos sy’n cydnabod arfer da yn y diwydiant trwyddedu a Hafan y Dref, y Ganolfan Les, sy’n agor ar nosweithiau prysur ac yn cynnig lle diogel i’ch cadw rhag unrhyw niwed.
Ysgolion Iach – Fe fydd yna nwyddau mislif rhad ac am ddim ar gael i ferched a gwybodaeth ynglŷn â’r cynllun Ysgolion Iach.
Coleg Cambria – Cewch wybod am yr holl gyfleoedd dysgu sydd ar gael yn y coleg yn Wrecsam sydd wedi ennill gwobrau.
Adloniant – Cerddoriaeth a Barddoniaeth gan Natasha Borton
Alf Jones
BAWSO – Cefnogaeth ar gael i bobl o gefndiroedd Du a Lleiafrifoedd Ethnig a effeithir gan gam-drin domestig a dullliau eraill o gam-drin, gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Merched, Priodas dan Orfod, Masnachu mewn Pobl a Phuteindra.
Mother Mountain Productions – Sefydliad Realiti Rhithwir
CBSW – Ymgynghori ac Ymgysylltu
Gyrfa Cymru
Dysgu Oedolion yn y Gymuned – Ymwybyddiaeth o’r Menopos
Clwb Pêl-droed Wrecsam – Tîm Merched
Clwb Pêl-droed Wrecsam – Anabledd
Calon FM – Cyfweliadau a Cherddoriaeth
Wings Wrexham – Ymwybyddiaeth o brosiect urddas mislif a chyfnewid dillad merched
Cadw’n Ddiogel Ar-lein – Darparu gwybodaeth ddiduedd, ffeithiol a hawdd i’w deall am ddiogelwch ar-lein.
Gallwch gysylltu â communitysafety@wrexham.gov.uk i gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad.
Manylion
- Dyddiad:
- Mawrth 8
- Amser:
-
10:00 am - 3:00 pm
- Categori Digwyddiad :
- Digwyddiadau
Related Digwyddiadau
Newyddion diweddar
- Mae ein Clwb Celf Teulu ar ei newydd wedd yn boblogaidd iawn gyda phlant!
- Gŵyl Wyddoniaeth DARGANFOD//DISCOVER i ddychwelyd ar gyfer haf 2023
- Criw Celf – Prosiect Celf ar gyfer pobl ifanc 9-14 oed
- Penblwydd hapus Tŷ Pawb! Yr eiliadau gorau o’n pum mlynedd gyntaf…
- Pan fo’r tywyllwch a’r goleuni’n gyfartal
Categorïau newyddion
Archifau newyddion
- Mai 2023
- Ebrill 2023
- Mawrth 2023
- Chwefror 2023
- Ionawr 2023
- Rhagfyr 2022
- Tachwedd 2022
- Medi 2022
- Awst 2022
- Gorffenaf 2022
- Mehefin 2022
- Mai 2022
- Ebrill 2022
- Chwefror 2022
- Ionawr 2022
- Tachwedd 2021
- Hydref 2021
- Medi 2021
- Awst 2021
- Gorffenaf 2021
- Mehefin 2021
- Mai 2021
- Ebrill 2021
- Mawrth 2021
- Chwefror 2021
- Ionawr 2021
- Rhagfyr 2020
- Tachwedd 2020
- Hydref 2020
- Medi 2020
- Awst 2020
- Gorffenaf 2020
- Mehefin 2020