Mae’r artist Jenny Cashmore yn dod â’i chyfnod preswyl artist i ben yn Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, pan ddaw’r oriau tywyll a golau yn gyfartal o amgylch Cyhydnos Mawrth.

Mae’n eich gwahodd chi i ddod, yn ystod y cyfnod o gydbwysedd hwn, i archwilio sut fyddai perthynas mwy cyfartal â natur o bosib yn teimlo, yn swnio, yn blasu, yn arogli ac yn edrych.

Ewch i mewn ac allan o raglen sy’n gwneud defnydd o leoliadau amrywiol y parcdir rhad ac am ddim. Mae’r rhaglen hon hefyd yn dilyn arweiniad yr amgylchedd i bennu amserlen sy’n dibynnu’n benodol ar hanner dydd solar am 12:20.

18/03/23 Codiad yr haul 06:20 – 18:21 Machlud haul
Parcdir Erddig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Wrecsam – AM DDIM (Wyneb yn wyneb)
Rhaglen greadigol o weithgarwch cyfranogol a digwyddiadau dros dro. Bydd manylion llawn a’r amseroedd yn cael eu nodi yma https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/erddig/cyfle-i-fod-yn-artist-preswyl

20/03/23 18:00 – 20:00
Home Is Where The Art Is – Calon FM (Radio/Digidol)
Mae Heather Wilson yn cael cwmni Jenny Cashmore ar gyfer rhifyn sydd wedi’i raglennu’n greadigol.

Fe’ch gwahoddir chi i;

  • Ddefnyddio set o ysgogiadau creadigol y gellir eu rhoi ar waith neu eu dychmygu. Casglu o’r safle ar y diwrnod.
  • Dewch â phicnic i’w rannu.
  • Blasu diod ‘gytbwys’ cyfunol arbennig (bydd y penderfyniad p’un a fyddwn yn ei weini’n gynnes neu’n oer yn dibynnu ar dymheredd y tywydd).
  • Gwrando ar seinwedd.
  • Archwilio eich cydbwysedd eich hun gyda gweithgareddau addas i’r teulu.
  • Ymyriadau creadigol.
  • Mynd i redeg ar godiad yr haul a/neu ar fachlud haul.

Mae modd mwynhau adegau o lonyddwch ac undod gan fod prosiect Cashmore yn cyflwyno rhaglen greadigol gytbwys i’n helpu ni i ystyried ein perthynas â’r byd naturiol sydd o’n cwmpas, a’n llesiant ein hunain.

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfeillgar ac yn addas i bob oed. Os oes gennych unrhyw bryderon hygyrchedd, cysylltwch â ni i weld sut allwn eich cefnogi i fynychu. Bydd toiledau ar gael ym Melin Puleston.

Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu ar y cyd ag ystod o unigolion creadigol, partneriaid a grwpiau cymunedol yn cynnwys; Natasha Borton (Gweithiwr creadigol amlddisgyblaethol), Louise Idoux (Meddyg Llysieuol, Oswestry Herbarium), Ardal Bicnic (Deuawd sain Rosey Brown a Heledd Evans), Calon FM a Heather Wilson, Erddig Muddy Trainers, Dynamic Wrexham, KIM Inspire, Bom Dia Cymru, a’r cymunedau ehangach yn Wrecsam.

Ariennir y cyfnod preswyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac fe’i cyflwynir ar y cyd â Tŷ Pawb.