English

Nine Nectarines and Other Porcelain

01/06/2019 – 04/08/2019

Arddangosfa unigol sefydliadol gyntaf Molly Palmer

Roedd Nine Nectarines and Other Porcelain yn annerch y gynulleidfa ynglŷn â’r gwahanol agweddau ar realaeth sy’n cuddio o fewn y real. Gallai hyn fod yn ymwneud a gwahanol rywogaethau a phersbectif naturiol, ond hefyd persbectif niwrolegol cudd, fel gorbryder, iselder, sgitsoffrenia neu ddeubegwn.

Rhennir yr oriel gan len gorfforol fel bod y ddau hanner gwrthgyferbyniol yn medru eistedd ochr yn ochr ac ymdreiddio i’w gilydd. Ar y naill ochr, cyflwynwyd ffilm uchelgeisiol, ac ar ochr arall yr oriel, dangoswyd ffurfiau wedi eu cerflunio yn ymwneud a ffurfiau angladdol yr Aifft a mecanwaith y corff.

Daw teitl yr arddangosfa o gerdd gan Marianne Moore, ac mae’r gwaith ei hun yn cyfeirio at waith ymchwil Palmer i hanes meddygaeth yn llyfrgell Ymddiriedolaeth Wellcome. Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar hud a lledrith fel technoleg ar gyfer hunansylweddoli, gan fwrw golwg ar ddiwylliannau lle mae hud a lledrith yn plethu gyda gwyddoniaeth a meddygaeth. Defnyddir defodau a symbolau i atgyfnerthu cylchoedd llesol a chreu cydbwysedd egwyddorol.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from Youtube
Vimeo
Consent to display content from Vimeo
Google Maps
Consent to display content from Google
X