Gwyliau Ysgol Mai 2021 – Annwn:
Llên Gwerin, dyfodoliaeth a dihangfa
Mae ein harddangosfa ‘Annwn’ wedi’i churadu gan ein Bwrdd Cynghori Ieuenctid, ac mae’n ymwneud â dychmygu bydoedd, dyfodolion eraill a dod o hyd i ddihangfa trwy ddychymyg a chwarae.
Rydyn ni wedi gwneud gweithgareddau hanner tymor yr wythnos hon o amgylch y syniadau hyn, gyda phrosiectau i’ch cael chi i wneud eich byd bach eich hun, anfon negeseuon i’r dyfodol a chymryd rhan mewn chwarae!
Anfonwch luniau o’ch creadigaethau i teampawb@wrexham.gov.uk i gael cyfle i gael sylw ar ein gwefan a’n cyfryngau cymdeithasol!
Dydd Llun: Curadur am ddiwrnod
Defnyddiwch yr adnoddau hyn i’ch ysbrydoli i greu eich orielau eich hun!
Dydd Mawrth: Bydoedd eraill
Creu lleoedd bach o greadigrwydd a ymhyfrydu yn y gweithgareddau hyn!
Dydd Mercher: Neges ar gyfer y Dyfodol
Dilynwch fideo diwtorial Paul Eastwood i greu eich hysbysfwrdd a’ch gwaith celf digidol eich hun.
Dydd Iau: Amser Chwarae!
Gwneud eitemau i’w hymgorffori mewn amseroedd chwarae creadigol.
Dydd Gwener: Dianc trwy’r stori!
Mae’r gweithgareddau hyn yn eich annog i ysgrifennu, gwneud cysgodion a chyfnodolion celf i adrodd straeon.