Mae Tŷ Pawb gyda’r penseiri Featherstone Young wedi derbyn prif wobr bensaernïaeth arall.

Mae Tŷ Pawb yn un o’r tri adeilad yng Nghymru i dderbyn Gwobr Pensaernïaeth Gymreig RSAW 2021, rhan o Wobrau cenedlaethol Cymdeithas Frenhinol Penseiri Prydain (RIBA).

Mae’r wobr yn golygu y bydd Tŷ Pawb nawr yn gymwys ar gyfer Gwobrau Cenedlaethol RIBA 2021 a Gwobr Stirling 2021, un o’r gwobrau pensaernïol mwyaf yn y DU.

Roedd y ddau enillydd arall yn cynnwys bwthyn o’r 19eg ganrif o’r enw Ty yng Ngogledd Cymru a Maggie’s Caerdydd, sy’n ganolfan gofal canser.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Lleoliad cymunedol a chelfyddydol ‘dychmygus a dewr’

Mae adroddiad y rheithgor ar Tŷ Pawb yn nodi: “Mae Marchnad y Bobl a enwyd yn flaenorol wedi cael ei ailgyflwyno’n ddychmygus ac yn ddewr fel lleoliad cymunedol a chelfyddyd a ariennir gan y Loteri tra hefyd yn cadw ei swyddogaethau blaenorol.”

Aiff yr adroddiad ymlaen i ddweud: “Heb os, mae cryfder y prosiect hwn yn gorwedd yn yr hyn y mae’n ceisio ei gyflawni trwy ailddefnyddio ac ail-stocio stoc adeilad canol tref yn hytrach na mynd ar drywydd datganiad pensaernïol.

“Mae Tŷ Pawb yn edrych o’r newydd ar ddarparu cyfleusterau ar gyfer y celfyddydau, gan geisio ei wneud yn hygyrch i bawb a chwistrellu perthnasedd i fywydau beunyddiol y rhai na fyddent fel arall yn cael eu denu i oriel draddodiadol.”

Yr adroddiad llawn

‘Ymdrech tîm enfawr gyda gwerth cymdeithasol yn ganolog iddo’

Dywedodd Sarah Featherstone, Cyfarwyddwr Penseiri Featherstone Young: “Mae’n golygu llawer iawn i ni fod wedi ennill Gwobr RSAW am Tŷ Pawb. Mae hwn wedi bod yn brosiect trawsnewidiol i Wrecsam. Roedd yn ganlyniad ymdrech tîm enfawr gyda gwerth cymdeithasol yn ganolog iddo.

“Roedd hyblygrwydd ac arbrofi yn ysgogwyr allweddol y dyluniad ac mae wedi bod yn hynod o braf gweld Tŷ Pawb yn ffynnu yn ei sbectrwm llawn o ddefnyddiau. Ochr yn ochr â rhaglen arddangos a’r farchnad. cynhelir digwyddiadau anffurfiol heb eu cynllunio – nosweithau meic agored, dawnsfeydd te, gweithdai pizza, dawnsio stryd i enwi ond ychydig; mae buddion dwyochrog rhannu adnoddau wedi bod yn bwysig i lwyddiant Tŷ Pawb. ”

Un o atyniadau mwyaf poblogaidd Wrecsam

Mae’r wobr yn un o sawl anrhydedd pensaernïol y mae Tŷ Pawb wedi’i dderbyn ers agor yn 2018.

Ymhlith y gwobrau eraill a dderbyniwyd mae Medal Aur Pensaernïaeth Genedlaethol Eisteddfod 2019 ac Ôl-ffitio y Flwyddyn y Architects Journal 2019 a’r Adeilad Diwylliannol Gorau o dan 5m 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam: “Diolch i weledigaeth anhygoel, creadigrwydd ac uchelgais tîm dylunio Tŷ Pawb, mae gan Wrecsam bellach gyfleuster diwylliannol sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n cael ei gydnabod dros y DU fel un o’r enghreifftiau gorau o sut y gellir ail-ddychmygu adeilad cyhoeddus yn rhywbeth newydd, arloesol a chyffrous. ”

“Ers agor yn 2018 mae Tŷ Pawb wedi tyfu i fod yn un o’n cyrchfannau lleol mwyaf gwerthfawr a hoffus. Mae’r awyrgylch wedi bod yn wych dros yr haf gyda cherddoriaeth fyw a gweithgareddau teuluol yn dychwelyd, busnesau lleol newydd yn ymuno â theulu’r farchnad ac ymwelwyr yn dychwelyd i orielau, gan gynnwys y Lle Celf Ddefnyddiol newydd sbon.

“Mae’r wobr hon yn haeddiannol iawn. Llongyfarchiadau enfawr i Featherstone Young ac i’r tîm staff am eu llwyddiant yn dod â diwylliant a chymuned ynghyd o dan yr un to.”

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram