Dyma’r newyddion rydyn ni i gyd wedi bod yn aros amdano…

O ddydd Sadwrn yma 17eg Gorffennaf byddwn yn croesawu cerddoriaeth fyw yn ôl i Tŷ Pawb, wrth i gerddorion acwstig lleol, sgwenwyr caneuon ac artistiaid sy’n chwarae fersiynau clawr perfformio setiau acwstig byw yn ein Ardal Fwyd bob dydd Sadwrn rhwng 12.00 a 2.15pm.

Mae digon o le i bawb fwynhau’r awyrgylch gwych yn ddiogel, a bydd ein masnachwyr Ardal Fwyd yn cynnig eu dewis gwych o fwydydd a diodydd, gydag opsiynau’n cynnwys cyri Indiaidd, byrgyrs o’r ansawdd gorau, bwyd Pwylaidd a’r pwdinau a’r ysgytlaeth gorau yn y dref!

Rhestr llawn y perfformwyr:

Dydd Sadwrn 17eg Gorffennaf
12-1pm – Isabella Crowther
1.15-2.15pm – Jamie Hamlington  

Dydd Sadwrn 24ain Gorffennaf
12-1pm – Megan Lee
1.15-2.15pm – Harrison Bellis

Dydd Sadwrn 31ain Gorffennaf
12-1pm – Kip Cannon
1.15pm-2.15pm – Laura-Leigh

Dydd Sadwrn 7fed Awst
12-1pm – Jamie Jay
1.15-2.15pm – Dave Elwyn

Dydd Sadwrn 14eg Awst
12-1pm – Igloo Hearts
1.15-2.15pm – Blood Honey  

Dydd Sadwrn 21ain Awst
GWYL GWYDDONIAETH DARGANFOD // DISCOVER – cerddoriaeth fyw i’w gadarnhau

Lein-yp yn amodol ar newid – edrychwch ar ein gwefan a’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Dywedodd Morgan Thomas, Swyddog Digwyddiadau Tŷ Pawb: “Rydym wedi colli cynnal cerddoriaeth fyw yn Tŷ Pawb dros y misoedd diwethaf. Mae yna sîn gerddoriaeth hollol wych yn Wrecsam a chymaint o unigolion talentog sy’n awyddus iawn i ddychwelyd i berfformio’n fyw cyn gynted â phosib. Rydym yn falch iawn o allu cynnig cyfleoedd i gerddorion lleol ac allwn ni ddim aros i weld Tŷ Pawb yn dod yn fyw bob dydd Sadwrn.”

Bydd ein masnachwyr yn y farchnad hefyd ar agor bob dydd Sadwrn, yn gwerthu amrywiaeth o nwyddau unigryw a diddorol, felly dewch lawr i bori trwy’r stondinau!

Mae gennym hefyd raglen wych ar gyfer gwyliau haf i blant dros y 6 wythnos nesaf – gweler y canllaw llawn yma: https://www.typawb.cymru/mae-ein-canllaw-gweithgaredd-teulu-gwyliau-haf-yma-ac-maen-nhw-i-gyd-am-ddim/.