Cyfle Swydd: Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb
Dymuna Tŷ Pawb benodi unigolyn brwdfrydig, galluog ac ysbrydoledig i arwain y gwaith o gyflwyno rhaglenni Celfyddydol yn Nhŷ Pawb am gyfnod o 6 mis. Bydd targedau, amcanion a chanlyniadau penodol i’w gwireddu yn ystod yr amserlen hon, er mwyn sicrhau parhad di-dor o ran gwasanaethau a datblygu sefydliadol.
Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol, sy’n dwyn ynghyd y celfyddydau a marchnadoedd o fewn yr un ôl troed. Ers agor yn 2018, mae Tŷ Pawb wedi cael ei gydnabod yn genedlaethol fel gofod diwylliannol arloesol gyda phwyslais ar berthnasoedd lleol ac ymarfer celf sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol. Mae Tŷ Pawb wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys y Fedal Aur am Bensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru; ac roedd yn sefydliad arweiniol i Gymru yn y 58fed Biennale Fenis Rhyngwladol 2019. Ochr yn ochr â pharhau ag arddangosfeydd a rhaglenni dysgu, mae ‘Gofod Celf Ddefnyddiol’ newydd a gardd do yn cael eu lansio yn 2021; mae’r rhain yn allweddol i gam nesaf datblygiad artistig Tŷ Pawb.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus:
– Bod yn drefnus iawn a brwdfrydig am gyflawni canlyniadau, gyda phrofiad profedig o reoli prosiectau artistig lluosog o ansawdd uchel, a phrofiad o reoli staff.
– Cael gwybodaeth eang am arferion celf weledol gyfoes, cymhwysol ac ymgysylltiedig yn gymdeithasol.
– Credu’n bersonol yn y celfyddydau fel sbardun ar gyfer newid cymdeithasol, gan ddangos y gallu i yrru’r weledigaeth sefydledig ar gyfer rhaglenni artistig Tŷ Pawb yn ei blaen.
– Cael profiad amlwg o godi arian yn llwyddiannus, ysgrifennu ceisiadau, adroddiadau ariannol a rheoli cyllidebau.
– Dangos sgiliau rhyngbersonol ardderchog i weithio o fewn tîm Tŷ Pawb, rheoli staff yn effeithiol a chyfathrebu’n dda â masnachwyr marchnad, artistiaid, y cyhoedd, partneriaid prosiect, aelodau etholedig a Bwrdd Cynghori Tŷ Pawb.
– Cael dull hyblyg a chydweithredol a bod yn frwdfrydig amdan integreiddio swyddogaethau’r celfyddydau a marchnadoedd yn Nhŷ Pawb.
Cyfnod Mamolaeth i ddechrau ar 2 Medi 2021 tan 5 Ebrill 2022.
Lleolir yn Tŷ Pawb a gweithio o bell
22.50 awr yr wythnos
G10 – £20,597 – £22,452 y flwyddyn
Am fwy o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Jo Marsh – jo.marsh@wrexham.gov.uk