• Dydd Sadwrn 28ain Tachwedd o 10am
  • Yn arddangos cynhyrchion unigryw ac anrhegion wedi’u gwneud â llaw gan wneuthurwyr lleol trwy ein straeon instagram – prynwch yn uniongyrchol gan y gwerthwr!

Sut i gymryd rhan

Gwnewch gais am eich stondin rhithiol:

1. E-bostiwch Morgan.Thomas@wrexham.gov.uk i gofrestru eich diddordeb erbyn dydd Gwener 20fed Tachwedd fan bellaf – rhowch rywfaint o wybodaeth amdanoch chi a’ch cynnyrch, yn ogystal ag unrhyw ddolenni perthnasol.

NODER: i fod yn gymwys ar gyfer un o’n stondinau rhithiol rhaid i chi gael sianel Instagram a bod yn gyfarwydd â phostio straeon. Rhaid i gwsmeriaid gael ffordd o brynu eich cynnyrch ar-lein, felly mae angen eich gwefan neu siop ar-lein eich hun fel Etsy.

Rhaid i unrhyw eitemau a werthir yn y ffair gyrraedd y prynwr ar gyfer y Nadolig.

Mae ein Marchnad Rithwir yn benodol ar gyfer gwneuthurwyr cynhyrchion wedi’u gwneud â llaw fel cerameg, gemwaith, dillad, printiau a mwy.

Disgwyliwn gael lle ar gyfer uchafswm o 15 o fasnachwyr a bydd slotiau’n cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin. Bydd y farchnad yn cael ei churadu i greu cymysgedd cytbwys, felly os oes gennym lawer o fasnachwyr am werthu’r un peth, efallai y bydd yn rhaid inni fod yn ddewisol.

2. Byddwn mewn cysylltiad i gadarnhau eich stondin rhithiol. Bydd cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad drwy drefnu galwad Zoom neu dros y ffôn gyda threfnydd y digwyddiad. Gan mai hwn yw ein digwyddiad cyntaf o’r math hwn, rydym 

hefyd yn awyddus i glywed am unrhyw syniadau sydd gennych ar gyfer rhedeg Marchnad Rithiol lwyddiannus!

3. Byddwn yn arddangos pob gwneuthurwr ar ein sianel Instagram yn y dyddiau cyn y digwyddiad. Byddem wrth ein bodd â llun ohonoch eich hun, bywgraffiad byr ac ychydig o ddelweddau o’ch cynnyrch i wneud hyn.

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Diwrnod y Farchnad – byddwch yn barod i werthu!

1. Byddwn yn rhannu hyd at 5 stori i bob masnachwr ar ein stori Instagram.

2. Gwahoddir stondinwyr i ddechrau ein tagio yn eu straeon o 8am ar Ddiwrnod y Farchnad a byddwn yn ail-rannu straeon am 3 awr o 10am tan 1pm. Bydd yr holl straeon yn cael eu gadael ar ein stori am y cyfnod llawn o 24 awr.

3. Mae’n ddrwg gennym, ni fydd unrhyw straeon a rennir ar ôl 1pm yn cael eu rhannu.

4. Cofiwch dagio @typawb a’i ddewis yn y rhestr o enwau sy’n codi fel y gallwn ail-rannu’r stori. Cofiwch hefyd dagio eich sianel Instagram eich hun yn y stori fel y gall prynwyr gael mynediad i’ch sianel.

5. Cymerwch amser i greu straeon sy’n edrych yn wych – ein nod yw i’r Farchnad Rithwir edrych mor ddeniadol â’r arddangosfeydd rydych chi’n eu creu yn eich siop go iawn! Edrychwch ar straeon eich gilydd am syniadau. 

6. Gwnewch yn siŵr bod dolenni i’ch siop ar-lein yn eich bio Instagram fel y gall prynwyr brynu eich cynnyrch yn hawdd.

7. I’r rheini ohonoch sydd am gynnig disgowntiau, nodwch god TYPAWB yn eich stori i brynwyr ei ddyfynnu.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau mae croeso i chi gysylltu a Morgan.Thomas@wrexham.gov.uk unrhyw bryd. 

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram

Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb