Rydym yn gwahodd pobl greadigol gerddorol i gyflwyno ceisiadau i ymddangos yn ein rhaglen gerddoriaeth fyw 2021-22, yn ddigidol ac yn yr adeilad. 

Ers cyflwyno cyfyngiadau o ganlyniad i’r pandemig ym mis Mawrth 2020 rydym wedi bod yn cyflwyno ein rhaglen gerddoriaeth fyw mewn fformat cwbl ddigidol drwy Facebook Live a’n sianel YouTube. 

Rydym wedi cynnal 20 sesiwn artist byw ar-lein sydd wedi cael ei gwylio dros 40,000 o weithiau yn gyfan gwbl, tra’n cefnogi pobl greadigol gerddorol yn ystod cyfnod o her ddigynsail i’r diwydiant. 

Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd ein sesiynau byw yn parhau drwy gydol 2021 ac i mewn i 2022, ac rydym yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan bobl greadigol gerddorol i lunio ein rhaglen drwy berfformiadau â thâl ar-lein ac, unwaith y bydd cyfyngiadau’n cael eu codi, mewn person yn yr adeilad. Gall sesiynau digidol fod ar ffurf ffrwd fyw neu sesiwn fyw wedi’i recordio ymlaen llaw a ddarlledir fel ‘Premiere’ Facebook a YouTube. 

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

Meini prawf cymhwysedd

  • Rhaid i unrhyw fersiynau clawr o ddeunydd beidio â defnyddio traciau cefndirol oherwydd cyfyngiadau hawlfraint
  • Dylai perfformiadau bara rhwng 30-60 munud
  • Ar gyfer ffrydiau byw digidol dylai artistiaid gael rhyngrwyd o ansawdd da (cyflymder lanlwytho o leiaf 5MB) a gwe-gamera o ansawdd da a meic USB allanol lle bo hynny’n bosibl 
  • Os ydych yn recordio sesiwn fyw wedi’i recordio ymlaen llaw, dylai artistiaid medru cynhyrchu ansawdd sain a fideo o safon uchel 
  • Mae profiad o gynhyrchu cynnwys byw digidol yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol 
  • Mae presenoldeb cyfryngau cymdeithasol ac ar-lein e.e. sianel Instagram/tudalen Facebook/gwefan yn ddymunol ond nid yn hanfodol 
  • Nid oes unrhyw gyfyngiadau daearyddol ar gyfer perfformiadau ar-lein 
  • Croesawn geisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw genre o bob cefndir

Sut i wneud cais 

Cyflwynwch eich cais drwy e-bost at Swyddog Digwyddiadau Tŷ Pawb Morgan Thomas (Morgan.Thomas@wrexham.gov.uk). Yn eich cynnig, dylech gynnwys y canlynol: 

  • Bywgraffiad cyffredinol ohonoch chi eich hun a’ch cerddoriaeth – gallai hyn gynnwys eich genre, profiad, os ydych wedi’ch arwyddo i label cerddoriaeth benodol ac yyb
  • O leiaf 2 enghraifft o’ch cerddoriaeth – yn ddelfrydol i gynnwys fideo o berfformiad byw 
  • Dolenni i’ch gwefan, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, Bandcamp, Spotify ac yyb
  • Unrhyw gwestiynau sydd gennych am y cyfle 

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau, ond nodwch fod cynllunio rhaglen ar gyfer 2021-22 ar y gweill ac rydym yn awyddus i glywed gennych cyn gynted â phosibl.

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram