Credyd holl ffotograffiaeth: Tim Rooney Photography

Fel rhan o uchelgais hirdymor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU, bu 8 ysgol yn y Sir, gan gynnwys 6 ysgol uwchradd, Ysgol St. Christopher’s a’r Uned Cyfeirio Disgyblion Gorwelion Newydd yn ddiweddar yn gweithio gyda’r bardd perfformio a Bardd Laureate Ieuenctid Blaenorol Cymru Martin Daws i ddatblygu prosiect o’r enw ‘Fy Wrecsam’, gan archwilio syniadau, teimladau a pherthynas pobl ifanc tuag at eu cartref drwy ganlyniadau barddonol.

Cafodd disgyblion o bob ysgol weithdai barddoniaeth hwyliog, rhyngweithiol, llafar gyda’r bardd perfformio Martin yn canolbwyntio ar y thema ‘Fy Wrecsam’ yn edrych ar hunaniaeth leol a’r hyn y mae’n ei olygu i fyw yma. Roedd y prosiect yn cynnwys disgyblion o grwpiau sy’n aml ar y cyrion ac yn agored i niwed wrth fynegi eu meddyliau a’u teimladau am fyw yn Wrecsam.

Mae cynnwys y cerddi yn rhoi adlewyrchiad amrywiol a gonest o Wrecsam fel Dinas a Sir o safbwynt y bobl ifanc, tra’n arddangos galluoedd ysgrifennu creadigol gwych pobl ifanc ledled y Sir.

Gallwch fwynhau barddoniaeth y bobl ifanc drwy’r dolenni SoundCloud isod.

Ysgol St. Christopher’s

Gorwelion Newydd/Haulfan

Ysgol Morgan Llwyd

Ysgol Clywedog

Ysgol Maelor

Ysgol Rhiwabon

Ysgol Bryn Alyn

Ysgol Y Grango