october, 2020
16oct7:30 pmFfrydiad Byw: Chris QuinnSesiwn fyw ar-lein gan y gitarydd a chyfansoddwr Chris Quinn.
Event Details
Sesiwn fyw ar-lein gan y gitarydd a chyfansoddwr Chris Quinn. Dros y degawd diwethaf mae Chris Quinn wedi dod yn fwyfwy adnabyddus o fewn y byd
more
Event Details
Sesiwn fyw ar-lein gan y gitarydd a chyfansoddwr Chris Quinn.
Dros y degawd diwethaf mae Chris Quinn wedi dod yn fwyfwy adnabyddus o fewn y byd cerddoriaeth acwstig fel gitarydd eithriadol, cyfansoddwr uchel ei barch a pherfformiwr byw o safon. Mae ei ddull technegol tuag at lawer o arddulliau o gerddoriaeth sy’n seiliedig ar “wreiddiau” gan gynnwys blws delta, jazz sipsiwn, gwerin, bluegrass, swing a chanu gwlad wedi arwain at gydweithio, yn fyw ac yn y stiwdio; gyda rhai o’r chwaraewyr gitar mwyaf adnabyddus yn y byd.
Tra nad yw Chris ar daith gyda’i sioe unigol ei hun yn perfformio caneuon gwreiddiol, adrodd hanesion doniol o’i amser yn teithio ac yn chwarae amrywiaeth o flws delta, swing, bluegrass a cherddoriaeth werin mae’n aml yn chwarae ochr yn ochr â goreuon y gitâr fel Robin Nolan, Stochelo Rosenberg, Clive Carrer a Paulus Schäfer. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae chwarae fel prif act Gŵyl Jazz Aberhonddu 2019 gyda Stochelo a Mozes Rosenberg, yn perfformio yn Neuadd Albert Frenhinol Llundain gyda’r Triawd Robin Nolan ar gyfer Jazz FM, set unigol yng nghlwb blws BB King yn Efrog Newydd a chael ei chwarae ar y radio ar sioe werin BBC Radio 2 Mark Radcliffe ar gyfer rhyddhad ei albwm diweddaraf. Mae Chris hefyd wedi perfformio sawl gwaith fel yr act agoriadol ar gyfer Cerddorfa Jools Holland.
Bydd Chris yn perfformio set fyw ar ein tudalen Facebook nos Wener o 7.30pm. Tiwniwch i mewn drwy:
www.facebook.com/typawb
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gallwch wneud cyfraniad gwerthfawr tuag at ein rhaglen digwyddiadau ar-lein sydd i ddod drwy archebu tocyn ‘talu be’ fedrwch’: https://bit.ly/3iTw5Wy.
Diolch yn fawr.
Time
(Friday) 7:30 pm BST