Cyflwyniad gan Peter Hooper

Un o’r straeon cyntaf i gael eu cyflwyno i’r dasg Chwedlau Creadigol rwy’n ei chyflwyno ar hyn o bryd yn Nhŷ Pawb yn Wrecsam oedd stori hudolus fendigedig am Eira, bochdew bach Syria. Mae’n rhaid i mi gyfaddef, pan luniodd Emma Ford gyfres o ddarluniau bywiog ar gyfer y dasg, roeddwn i wir yn gobeithio y byddai ei llun o ornest y ddau fochdew yn denu sylw perchnogion anifeiliaid anwes. Ac fe wnaeth!

Mae Eira yn fochdew go iawn, ac mae Polly, awdures y stori, yn fam i Isaac a Seren, sef perchnogion Eira. Mae Isaac wedi creu llun hyfryd, ac fel y gwelwch chi, mae’n dangos Eira, tylluan fawr (o na!) a Chastell y Waun. Mae’r stori ei hun yn wedi ei hysgrifennu’n hyfryd ac yn llawn teimlad.

Yng ngeiriau Polly: “Gan fy mod wedi fy rhwystro rhag ymweld â theulu yn y Waun yn ystod y cyfnod clo, rwyf wedi bod yn dioddef o hiraeth mawr am bobl yr ardal, ac o ganlyniad fe es ati i ddilyn tudalen yr Eisteddfod Ryngwladol ar Facebook.

Roeddwn i wrth fy modd yn darllen eich briff am y Chwedlau Creadigol a bostiwyd arni.  Pan awgrymwyd y gellid ysgrifennu stori am anturiaethau bochdew bach anwes, roedd yn rhaid i mi roi cynnig arni, gan ein bod wedi croesawu Eira i’n haelwyd ni yn ystod y cyfnod clo.”

Treuliodd Polly ei phlentyndod yn sir Wrecsam ond mae hi bellach yn byw yng Ngorllewin Canolbarth  Lloegr. Yn nhaflen waith y dasg, rwy’n cyfeirio at Gastell y Waun fel lleoliad posibl i chwedlau a straeon tylwyth teg – ac oherwydd fod Polly (rwyf wrth fy modd gyda hyn!) wedi bod yn byw yn y Waun a phan oedd yn ferch ysgol, roedd ganddi swydd ar ddydd Sadwrn yn yr ystafelloedd te yng nghastell y Waun, fe ddewisodd osod y castell yn rhan  ganolog o’i stori. Dydw i ddim am ddatgelu gormod am y stori, ond mae’r prif elfennau yn llun Isaac.

Fel y sonia uchod, nid yw Polly wedi gallu gweld llawer ar ei mam yn ddiweddar oherwydd y cyfnodau clo ar ddwy ochr y ffin, felly anfonodd gopi o’r chwedl ati yn y post. Y diwrnod canlynol, ddiwedd y prynhawn, cafodd neges gan ei mam i ddweud ei bod wedi mynd am dro gyda thad Polly er mwyn codi ei hwyliau a phan ddaeth adref, roedd amlen aur ar y mat yn cynnwys y stori. Darllenodd y stori a daeth â deigryn i’w llygaid. A thrwy gyd-ddigwyddiad hyfryd, roedd hi newydd fod am dro gerdded yng nghoedwig Castell y Waun y bore hwnnw!

Eira’n Dod o Hyd i’w Chartref – gan Polly Caley

Amser maith yn ôl, roedd pentref cyfan yn swatio yn eu gwlâu, yn breuddwydio’n braf – pawb, ond am un fach, oedd yn effro ac ar ei phen ei hun. Gellid clywed ei llais bach yn canu i gyfeiriad y lloer wrth iddi hi bendroni. Sut yn y byd fyddai hi’n darganfod ei ffordd yn ôl at y mynydd? Sut allai hi ddianc o’i chawell hyd yn oed?

Ar yr eiliad honno, daeth awel ysgafn i chwalu bwlch yn y cymylau a disgleiriodd y lleuad drwy ffenestr y bwthyn. Goleuodd y dresel Gymreig oedd yn sefyll yn dal yn y gornel. Sbeciodd Eira arni drwy fariau ei chawell. Yno ar silff y dresel, roedd y llun yr oedd hi wrth ei bodd yn syllu arno.

Yn y llun, safai’r hen wraig, fochgoch, gyda het wlanog werdd am ei phen, a gwên fuddugoliaethus ar ei hwyneb. “Choeli di byth! Mi wnes i gyrraedd copa’r Wyddfa!” meddai’r wraig wrth Eira, bob tro y byddai’n cydio yn y llun er mwyn tynnu llwch oddi ar y ffrâm.

Yn y llun, roedd yr awyr yn enfawr – gwyn, llwyd a glas, ac yn ddiderfyn. A thu ôl i greigiau’r copa ble roedd yr hen wraig yn sefyll, roedd rhes o gopaon garw. Dyna’r peth harddaf welodd Eira erioed a gwyddai, mae’n rhaid mai’r fan honno oedd ei chartref. Pam arall fyddai’r hen wraig wedi ei galw hi’n Eira?

Â’i chalon yn anniddig, neidiodd ar ei holwyn yn y gawell a dechrau rhedeg a rhedeg. Neidiodd i lawr, a dawnsio’i ffordd i ben y ramp bychan ac i lawr, er mwyn symud o un rhan o’r gawell i’r llall. Roedd hi mor gyffrous o weld yr Wyddfa, prin y gallai aros i fwyta ei hadau a’i pheli bach – roedd ei bol hi’n llawn i’r ymylon o hiraeth am adref.

Yn y diwedd, ciliodd y lleuad. Dylyfodd Eira ei gên yn flinedig a dringo i’w thŷ bach glas, gan swatio yn ei gwely clyd. Yn ei nyth fach gynnes, llenwodd ei phen â lluniau o’r mynyddoedd.

Y noson wedyn, clywodd Eira’r hen wraig yn agor y gawell ac yn gollwng darn o gneuen gollen iddi. Ac yna clywodd ganu, na chlywodd hi erioed o’r blaen. Roedd yn denu’r wraig i ‘stafell arall, ac yna clywodd y wraig yn siarad gyda rhywun arall.

Gwthiodd ei phen allan o’i thŷ bach, a sylweddolodd Eira fod y drws ar ben y gawell wedi ei adael yn llydan agored. Dyma ei chyfle mawr!

Edrychodd tua’r lleuad i chwilio am ddewrder a dechreuodd ganu’r gân fechan yr oedd hi wedi ei gwybod erioed. Meddyliai Eira y byddai’r geiriau rhyfedd yr oedd hi’n eu gwichian yn atsain drwy’r mynyddoedd yn y pellter ac yn ei harwain hi at ei chartref.

Dringodd Eira i ben y to a’i llusgo ei hun allan drwy frig y gawell. Disgynnodd yn glewt i’r llawr llechi islaw, gyda sŵn taro tawel. Sleifiodd yn wyliadwrus heibio’r gath gysglyd, a rhuthro tua’r twll yn y drws, yr un y byddai’r gath yn mynd a dod drwyddo. Roedd ei phen bach yn curo ar ôl iddi redeg ar ei phen i gaead y twll. Symudodd o ddim! Gwingodd y gath. Arhosodd Eira. Diolch byth, roedd y gath yn dal i gysgu.

Casglodd Eira holl nerth y mynyddoedd, oedd yn siŵr o fod yn gartref iddi, a gwthiodd ei phawennau yn erbyn caead y twll a gwthio’n galed unwaith eto. Er mawr syndod iddi, fe rowliodd yn ei blaen i’r byd y tu allan.

Y tu allan roedd hi’n oer ac yn llaith. Roedd arogl llwch llif yn llenwi’r aer – fel y naddion yr oedd y wraig yn eu rhoi yn haenau yn y gawell i Eira gael turio ynddynt. Tarfwyd ar ei meddyliau cyn bo hir pan welodd y cymylau mwg mawr, yn codi i awyr y nos, uwchben y coed cyfagos. Efallai mai mwg o simdde’r torrwr coed oedd o. Ond roedd yn ddigon â dychryn Eira.

Cofiodd am lun y ddraig goch yn y ffrâm yn ôl yn y bwthyn. Efallai fod y cymylau o fwg yn dod o ffroenau’r ddraig danllyd sy’n gwarchod yr Wyddfa, meddyliodd. Dechreuodd ei blew bach grynu. Anadlodd yn ddwfn a gobeithiodd fod y ddraig yn cysgu’n sownd fel y gath.

A’r eiliad honno, daeth gwynt oer. Roedd arogl newydd, melys yn ei denu i lawr y lôn. Pan fforchiodd y llwybr yn ddau, dilynodd ei thrwyn a throi i’r chwith.

Snwff, snwff – ia wir, fan hyn roedden nhw’n gwneud siocled! Roedd hi’n adnabod yr arwyddion porffor yr oedd hi wedi eu gweld o’r blaen. Roedd o ar y pecyn yr oedd yr hen wraig yn bwyta ohono y noson honno. Cofiodd, yn anffodus, ei bod wedi gadael y gneuen a gafodd ar ôl.

Â’i llygaid ar agor led y pen, rhedodd a rhedodd Eira, nerth ei thraed bach pytiog. Curiad ei chalon yn ei gyrru yn ei blaen a’r lleuad yn ffrind iddi. Bob hyn a hyn, gwelai barau o lygaid melyn yn rhythu arni o’r llwyni, ac oherwydd hynny daliodd i redeg heb aros am eiliad.

Roedd y ffordd o’i blaen yn codi’n uwch. Wrth iddi ddringo ar ei hyd, dechreuodd y ddaear gyfan grynu o dan ei phawennau.

Daeth sŵn rhuo byddarol drwy’r aer a tharo ei chlustiau. Ofnai fod y ddraig wedi deffro o’r diwedd!

Yna sylweddolodd fod y sŵn yn dod o neidr ddur enfawr, oedd yn mynd heibio o dan y ffordd. Drwy fylchau yn y ffens ar ochr y ffordd, gwelodd gip ar y trên yn sgerbydu yn ei blaen ar hyd ei chledrau, gan hyrddio drwy’r tywyllwch tuag at ei chyrchfan.

Treuliodd Eira eiliad fach yn cael ei gwynt ati, cyn dal i fynd.

Roedd y ddaear yn mynd yn fwy a mwy mwdlyd a theimlodd ei hun yn sgrialu i lawr llethr. Roedd yr aer yn fwy llaith o lawer erbyn hyn a sylwodd ei bod yn agos at lan rhyw ddŵr. Roedd dail crin a broc yn llifo’n araf ar wyneb y dŵr. Roedd llonyddwch y dŵr yn gwneud i Eira deimlo’n anghyfforddus ac roedd y tywyllwch yn cau o’i hamgylch.

Sylweddolodd ei bod mewn ogof. Mae’n rhaid mai dyma fynedfa’r Wyddfa meddyliodd, a chododd ei chalon rywfaint. Ond wrth iddi symud ymlaen yn bwyllog, roedd mwy a mwy o ofn arni.

Ar yr un pryd, roedd sŵn traed o’r tu ôl yn dod yn nes ati. Rhewodd Eira.

Roedd golau’r lleuad ym mhen draw’r twnnel yn edrych mor bell i ffwrdd, a doedd hi ddim yn siŵr allai hi gyrraedd y pen arall. Caeodd ei llygaid yn dynn, a gwasgu’i hun yn belen, gan wthio yn erbyn cerrig oer, gwlyb y wal.

Yr eiliad honno, aeth llygoden fawr heibio iddi a chwerthin yn sbeitlyd wrth redeg yn ei blaen. Daeth o’i phelen a theimlo rhyddhad, cyn dilyn yn ôl troed y llygoden yn sydyn.

Er mawr syndod iddi, daeth allan o’r twnnel. Doedd dim golwg o’r llygoden fawr. Roedd hi mor falch o weld y lleuad llawn eto, nes iddi aros am ennyd i ganu’r gan Gymreig am ei chartref. Syllodd i’r awyr a meddyliodd, tybed oedd yr Wyddfa yn agos iawn rŵan.

Roedd creadur asgellog yn ei rhwystro rhag gweld, a phlymiodd tuag ati. Fflachiodd bywyd byr Eira drwy’i meddwl mewn eiliad a rhoddodd ei phawennau dros ei llygaid, yn barod am y Diwedd.

Ond theimlodd hi ddim byd. Gallai arogli plu. Mentrodd agor ei llygaid. Yn fawr uwch ei phen, syllodd i ddau lygad treiddgar y creadur.

 “Nid llygoden faes wyt ti. Nid dyma rydw i’n ei gael i swper fel arfer,” meddai’r creadur, braidd yn swta.

 “Nage….Eira ydw i,” gwichiodd Eira ei hateb yn ofnus.

 “A Tylluan ydw i,” meddai’r dylluan yn reit bwysig, “Ac rydw i’n credu dy fod di’n canu mewn Arabeg.”

 “Nac oeddwn wir,” meddai Eira mewn penbleth. “Rydw i ar fy ffordd at yr Wyddfa – y mynydd uchel â’i eira gwyn, dyna ble ces i fy enw – ac rydw i’n meddwl mai cân Gymraeg ydy hi.”

Yn gwbl ddigyffro, syllodd Tylluan ar Eira. “Paid â bod yn wirion, bochdew Syria wyt ti ac mae’r gân yna’n dod o dir pell, pell i ffwrdd o’r enw Syria.”

Roedd yr aderyn yn edrych yn hollwybodus a llithrodd Eira i’r mwd, yn teimlo’n drist ac yn ddryslyd. Yn sydyn, teimlai ar goll ac yn fwy unig nac erioed.

 “Felly, Eira ydy dy enw di? A ti sy’n byw efo’r hen wraig yn y bwthyn, ia? Dwyt ti ddim wedi dy enwi ar ôl yr Wyddfa, ac rydan ni’n bell iawn o’r fan honno rŵan.”

 “Sut gwyddost ti hyn i gyd?” Holodd Eira, wedi dychryn.

 “Tylluan ydw i,” meddai Tylluan yn wybodus.

Lledodd Tylluan ei adenydd mawr a bachu Eira yn ei grafangau. Am eiliad, roedd Eira’n credu ei bod hi’n mynd i gael ei bwyta wedi’r cyfan. Roedd y ddaear yn cilio yn bell oddi wrthi a sylweddolodd eu bod nhw’n hedfan.

 “Mi ddangosaf i ti o ble daeth dy enw di,” meddai Tylluan, gan gydio’n ofalus yn Eira.

A dyma nhw’n hedfan dros y dŵr. Dros y coed a’r caeau, a dangosodd Tylluan siapiau’r defaid islaw yn gorffwys.

Cyn bo hir, daethant at adeilad mawr carreg, fil o weithiau’n fwy na’r bwthyn. Roedd baner yn chwifio o’r tyrrau uchel, a draig goch arni. Dywedodd Tylluan wrth Eira fod hwn yn gastell hynafol. Credai Eira mae’n rhaid mai fan hyn oedd cartref y ddraig ac roedd hi’n falch iawn fod Tylluan yno i’w gwarchod.

Ond wnaethon nhw ddim glanio yn y castell. Yn hytrach, fe hedfanon nhw i’r goedwig yn nhir y castell. Yn ofalus, daeth Tylluan ag Eira i lawr ar y ddaear rewllyd. Llenwodd yr aer oer ei ffroenau wrth iddi edrych o’i hamgylch. Hyd lawr y goedwig ym mhobman, roedd heidiau o flodau gwynion yn gwyro eu pennau. Yn union fel pe baen nhw’n ymgrymu, ac yn trin Eira fel rhywun pwysig.

Eglurodd Tylluan mai dyma’r goedwig yr oedd yr hen wraig yn cerdded ynddi pan fyddai’n teimlo’n drist ac unig, ac yn hiraethu am deulu sydd ddim gyda hi erbyn hyn. Dyma ei hoff le ac mae’n codi ei chalon bob tro. Ac mae hi wrth ei bodd yma yr adeg hon o’r flwyddyn, pan fydd Tlysau’r Eira i gyd yn dod i’r golwg.

 “A dyna ble cest ti dy enw, Eira. Oherwydd dy fod di’n dlws ac yn rhoi cysur, yn union fel y blodau hardd yma.”

A dyna pryd y sylwodd Eira fod ei chalon yn curo’n gynnes a theimlai fel pe bai ei mynwes i gyd yn gloywi. Roedd hi’n gwybod ym mer ei hesgyrn ei bod wedi cyrraedd.

 “Eira, mae’n siŵr fod rhai o dy hynafiaid o Syria wedi dod yma gydag un o’r corau neu’r criwiau dawnsio sy’n ymweld â’r ardal hon bob blwyddyn i ŵyl ryfeddol. Enw’r ŵyl ydy Eisteddfod. A Bwrdeistref Wrecsam sy’n rhoi croeso cynnes i bawb yno.”

 “Bwrdeistref Wrecsam,” meddai Eira’n annwyl wrthi hi ei hun, gan sylweddoli mai cartref ydy ble bynnag rydych chi’n cael eich caru. Ar yr un pryd, sylweddolodd ei bod eisiau dychwelyd at yr hen wraig yn y bwthyn.

Heb ddweud yr un gair, roedd Tylluan wedi cipio Eira ac roedden nhw’n hedfan yn ôl dros bennau’r coed. Yn ôl dros y caeau a thoeau’r tai, a chyn pen dim, roedden nhw yn ôl yn y bwthyn.

Yn dawel, plymiodd Tylluan i lawr, gan ollwng Eira yn gelfydd ar sil y ffenestr agored; cyn diflannu eto, yn gysgod am ennyd rhyngddi hi a golau’r lleuad.

Llithrodd Eira i’r tŷ. Ystwyriodd y gath rhyw fymryn, cyn ail afael yn ei chwsg. Dringodd yn ôl i’w chawell, ac edrychodd Eira unwaith eto ar y lleuad oedd ar fin diflannu, cyn swatio yn ei gwely cynnes yn ei thŷ bach glas a mynd i gysgu’n braf. Roedd gwên fach gynnil o dan ei blew wrth iddi orffwys yn ddiogel yn ei chartref.

Ac wrth gwrs, bu Eira a’r hen wraig yn byw’n ddedwydd yno o hynny ymlaen. 

Y Diwedd