Y tu ôl i’r hunan bortreadau gwych hyn mae aelodau ein Bwrdd Cynghori Ieuenctid newydd sbon.

Fe wnaethant gyfarfod am y tro cyntaf ddydd Gwener Ionawr 8. Ymhlith y pynciau a drafodwyd roedd ffync Brasil, hoff sioeau cerdd, Travis Scott a nofelau rhamant trasig!

Rydyn ni’n gyffrous i weld beth fydd grŵp sydd â diddordebau eclectig o’r fath yn ei gynhyrchu!

Bydd y BCI yn gweithio’n agos gyda thîm Tŷ Pawb i helpu i sicrhau bod ystod mwy amrywiol o leisiau ifanc lleol yn gallu cael eu cynrychioli wrth gynllunio a datblygu arddangosfeydd a gweithgareddau yn y dyfodol.  

Bydd y BCI yn chwarae rôl allweddol i gefnogi’r celfyddydau sydd wedi ennill amryw o wobrau yn Wrecsam, marchnadoedd a chanolbwynt cymunedol i ymgysylltu â chynulleidfaoedd ehangach, ar-lein a’i weithgareddau yn yr adeilad. 

Yn cyflwyno ein Cynhyrchydd Creadigol newydd

Mae’r BCI yn cael ei recriwtio gan gynhyrchydd creadigol ar liwt ei hun, Yasmin Begum, fydd yn gweithio gyda’r grŵp i ddechrau ar werthuso arddangosfa Agored Tŷ Pawb.  Bydd y grŵp yn mynd ymlaen i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai o dan arweiniad yr artist Harold Offeh; bydd hyn yn gyfle i archwilio dyheadau’r grŵp ar gyfer Tŷ Pawb a’i raglen yn y dyfodol, a’u hunain fel dinasyddion lleol. 

Mae Harold Offeh yn artist yn gweithio mewn ystod o gyfryngau yn cynnwys perfformiad, fideo, ffotograffiaeth, dysgu ac arfer celf cymdeithasol. Mae wedi cynnig mentora yn Tŷ Pawb o’r blaen fel rhan o Gymru yn Fenis 2019.  

Mae Yasmin Begum yn ysgrifennwr, ymchwilydd ac ymarferydd creadigol o Gaerdydd. Mae wedi gweithio gyda sefydliadau yn cynnwys Canolfan Ffilm Cymru ac mae’n gyn-olygydd cylchgrawn o dan arweiniad ieuenctid The Sprout.  

CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB.

“Byddwn yn cymryd rôl weithredol yn cynllunio a gwerthuso rhaglen gelfyddydau Tŷ Pawb”

Dywedodd Yasmin: “Rwy’n gyffrous iawn i fod yn cymryd y rôl hon gyda Tŷ Pawb. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm ac asiantaethau partner i nodi pobl ifanc â diddordeb yn y celfyddydau fyddai’n dymuno cymryd rhan ac rydym wedi dechrau sefydlu tîm cryf iawn o leisiau ifanc lleol amrywiol. 

“Rydym yn anelu i weithio gyda phobl ifanc i ymestyn sgiliau a rhoi hwb i hyder, gan ddarparu cyfleoedd unigryw. Mae gennyf ddiddordeb arbennig ac rwy’n falch iawn o fod yn gweithio fel Cynhyrchydd Creadigol ar y prosiect hwn, oherwydd fy mod yn gwybod yn iawn pa mor bwysig mae mentrau fel hyn yn gallu bod ac yn gallu newid bywydau, yn arbennig ar ôl bod yn fuddiolwr prosiectau fel hyn yn hanesyddol fel person ifanc.

“Byddwn yn cymryd rôl weithredol yn cynllunio a gwerthuso rhaglen gelfyddydau Tŷ Pawb, yn gweithio ar y cyd gyda phobl ifanc lleol yn ardal Wrecsam.  Bydd hyn yn cynnwys arddangosfeydd a gweithgareddau a gynhelir yn yr adeilad yn ogystal â’r strategaeth ddigidol ac allgymorth newydd i ymgysylltu â grwpiau ieuenctid.

“Mae yna gymaint o arddangosfeydd a phrosiectau cyffrous ar y gweill ar gyfer y flwyddyn i ddod. Rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gymryd rhan, gan ddechrau gyda’n gweithdai yn gweithio gyda Harold Offeh, artist ac addysgwr amlgyfrwng.” 

Ymateb ac Ail-ddychmygu

Mae’r prosiect Bwrdd Cynghori Ieuenctid yn bosibl diolch i grant a ddarparwyd gan Gronfa’r Celfyddydau fel rhan o’r prosiect Ymateb ac Ailddychmygu. 

Mae’r grantiau yn anelu i helpu amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol i ymateb i heriau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng Covid-19, a chynnig cefnogaeth i addasu ac ailddychmygu ffyrdd o weithio ar gyfer y dyfodol. 

Yn ogystal â’r Bwrdd Cynghori Ieuenctid, mae’r grant hefyd wedi ariannu mynedfa sbon i brif oriel Tŷ Pawb. Mae hyn yn caniatáu i ymwelwyr fynd i mewn i’r oriel yn uniongyrchol o neuadd y farchnad, gan wneud yr arddangosfeydd yn fwy gweladwy a hygyrch i’r cyhoedd. Mae hefyd wedi galluogi system un ffordd yn yr oriel, gan ei gwneud yn haws i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol 

Cyflawniad ‘gwych’

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Amddiffyn y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam: “Mae’n rhaid canmol tîm Tŷ Pawb am eu cyflawniad drwy lwyddo i sicrhau’r grant Cyllid Celfyddydau hynod werthfawr hwn. Roedd llai na 18% o’r ceisiadau yn llwyddiannus oedd yn dangos cryfder y cais a gyflwynwyd gan Tŷ Pawb a gwaith rhagorol a wnaed gan y tîm yn datblygu’r prosiect arloesol hwn. 

“Bydd y Bwrdd Cynghori Ieuenctid yn ein helpu i gymryd agwedd newydd wrth i ni gynllunio ein rhaglen o arddangosfeydd a gweithgareddau yn y byd ôl-Covid. Bydd hyn yn cynnwys blaenoriaethu ein cysylltiad gyda chynulleidfaoedd ehangach, yn cefnogi ein hymrwymiadau i’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a sicrhau y gall Tŷ Pawb fod yn groesawgar a hygyrch i bawb.”

Dilynwch Tŷ Pawb ar:
Facebook
Twitter
Instagram