Rydym yn hynod falch o fod mewn sefyllfa i recriwtio ar gyfer Bwrdd Ymgynghorol Tŷ Pawb. Gan hynny, rydym yn annog unigolion i ymgeisio am y swyddi hyn.

Ers agor yn 2018, mae Tŷ Pawb wedi bod ar siwrnai gyffrous. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys cynrychioli Cymru yn Venice Biennale yn 2019, derbyn nifer o wobrau pensaernïol, cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Amgueddfa’r Flwyddyn 2022 y Gronfa Gelf, ffurfio rhan o ymgyrch Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU, a dod yn bartner yng Nghanolbwynt Amlddiwylliannol Gogledd Cymru a gynhelir gan Race Council Cymru ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae partneriaethau wedi datblygu gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a chydweithwyr o Gymdeithas Arte Util, ymysg eraill.

Fel gweddill y sector ac yn wir y byd, mae Tŷ Pawb wedi wynebu storm Covid dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi arwain at rai newidiadau i’r ffordd yr ydym yn gweithredu a sut y caiff ein rhaglenni eu darparu, gan gynnwys: trawsnewid 1) Oriel 2 yn Ofod Celf Defnyddiol; 2) ein siop yn Ofod Gwneuthurwyr; 3) rhan o’n maes parcio aml-lawr yn ardd gymunedol ar y to yn ogystal ag ailstrwythuro staff i ganolbwyntio ar dwf.

Mae’r sefydliad yn paratoi am newid pellach hefyd. Mae arfarniad opsiynau ar y gweill ar hyn o bryd i archwilio modelau darparu posibl ar gyfer Tŷ Pawb yn y dyfodol, naill ai o fewn neu du allan i’r awdurdod lleol; byddwn hefyd yn gwneud cais i Adolygiad Buddsoddi Cyngor Celfyddydau Cymru, ac os byddwn yn llwyddiannus byddwn yn elwa o gefnogaeth aml-flwyddyn ac o bosibl cynnydd mewn cyllid a fyddai’n ehangu ein darpariaeth yn sylweddol.

Mae nifer o elfennau ansicr ond yn y tymor byr, gyda newid ar y gorwel, rydym yn ceisio cymorth wedi’i ganolbwyntio gan fwrdd ymgynghorol gan roi sylw penodol i ddatblygiad y rhaglenni celfyddydol yn Nhŷ Pawb. Mae hyn yn cynnwys rhaglen arddangosfeydd, Gofod Celf Defnyddiol, Canolbwynt Amlddiwylliannol, Gofod Gwneuthurwyr, Gardd Do, rhaglenni addysgol a’r croestoriad â neuadd y farchnad a’r maes parcio.

Mae’r bwrdd ymgynghorol yn cyfarfod bob 2 fis, am ddim mwy na 2 awr. Byddem yn falch iawn pe baech yn ystyried eich diddordeb yn hyn gan fod angen Bwrdd cryf arnom i helpu i lunio ein cynlluniau wrth fynd ymlaen i ddatblygu Tŷ Pawb.

Yn atodedig Mae’r Cylch Gorchwyl sy’n amlinellu’r meini prawf gofynnol i fod yn llwyddiannus yn y swydd dan sylw ar gael yma

Gwahoddir Darpar Aelodau’r Bwrdd i fynegi eu diddordeb yn ysgrifenedig i gefnogi’r meini prawf a nodwyd yn y cylch gorchwyl.

Rydym hefyd yn ceisio mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer swyddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol. Bydd y Bwrdd presennol wedyn yn creu rhestr fer cyn cadarnhau’r camau nesaf / dewisiadau terfynol.

Anfonwch fynegiad o ddiddordeb gyda’ch CV neu ddogfen gyfatebol at typawb@wrexham.gov.uk gyda’r geiriau ‘BWRDD YMGYNGHOROL’ a’ch enw yn y blwch testun cyn y dyddiad cau sef dydd Mawrth, 7fed Mawrth.