Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019

Yn 2018 Comisiynwyd Tŷ Pawb fel y prif sefydliad, ynghyd â’r artist Sean Edwards a’r curadur annibynnol Marie-Anne McQuay, i gyflwyno’r arddangosfa ar gyfer Cymru yn Fenis Wales in Venice yn Biennale Fenis 2019. Datblygwyd arddangosfa unigol o waith newydd gan Edwards, o’r enw ‘Undo Things Done’.

Yn dilyn ei chyflwyniad yn Fenis, teithiwyd ail-gyfansoddiad o ‘Undo Things Done/Dadwneud Pethau a Wneir’ i Wrecsam ar ddechrau 2020 cyn teithio ymlaen i Bluecoat, Lerpwl a’r Senedd. Ceir manylion llawn am yr arddangosfa yn Wrecsam yma.

Sean Edwards ar BBC Radio 4 Front Row

Ar ddydd Llun y 20fed o Orffennaf bu Sean yn ymddangos ar raglen BBC Radio 4 Front Row. Siaradodd am brosiect Cymru yn Fenis Wales in Venice 2019, gweithio gyda’i fam Lily Edwards ar y ddrama radio – ‘Refrain’ a gynhyrchwyd ar y cyd gyda National Theatre Wales, yn ogystal â’i lwyddiant yn ddiweddar yn derbyn un o ddeg o fwrsariaethau mawreddog gan Tate ar gyfer Gwobr Turner eleni.

Cliciwch i wrando ar y cyfweliad.

Sean Edwards

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd yn 1980 a graddio o ysgol celf a dylunio Caerdydd cyn astudio MA mewn cerflunio yn Ysgol Gelf Gain y Slade.

Daeth yn ôl i Gymru yn 2005. Ers hynny mae’n cyfrannu at y sector drwy ei waith ei hun a chefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg drwy g39 (stiwdio dan arweiniad artistiaid). Erbyn hyn mae’n ddarlithydd mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Celf Dylunio Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae wedi arddangos yn genedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys yn: Spike Island, Bryste; Chapter, Caerdydd; Kunstverein Freiburg, yr Almaen.

Mae wedi datblygu gwaith celf cyhoeddus parhaol gyda Studio Response a Future City. Yn 2014 cafodd y fedal aur mewn celfyddyd gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hefyd wedi cael dyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’n cael ei gynrychioli gan Tanya Leighton, Berlin.

Gwefan yr Artist
johnstowncompany.com

Marie-Anne McQuay

Hi yw’r curadur gwadd rhyngwladol i’r arddangosfa. Ers Tachwedd 2014 mae’n Bennaeth Rhaglen yn Bluecoat, Lerpwl (y ganolfan hynaf ym Mhrydain sy’n arddangos y celfyddydau cyfoes). Mae’r arddangosfeydd unigol diweddar yn Bluecoat yn cynnwys gwaith newydd gan: Larissa Sansour, Louisa Martin, Adham Faramawy, Elaine Mitchener, Grace Ndiritu. Cyn hynny (2007-13) roedd yn guradur yn Spike Island, Bryste gan weithio gyda’r artistiaid yma: Elizabeth Price, Laure Prouvost, Can Altay, Sonia Boyce, Cevdet Erek, Melissa Gordon, Sean Edwards, Uriel Orlow, Amanda Beech, Craig Mulholland, James Richards, Jesse Jones Roedd hi’n gweithio’n gyntaf gyda Sean Edwards yn 2011 ar yr arddangosfa ‘Maelfa’, Spike Island, Bryste.


Criw Celf

Gwahoddwyd aelodau Criw Celf Caerdydd i stiwdio Sean Edwards, artist #CymruYnFenis2019, wrth iddo baratoi’r arddangosfa arbennig. Tra yno, llwyddodd y criw o bobl ifanc i ddal teimlad ac ysbryd y gwaith barddonol. Cewch fwynhau allbwn gwaith Sahar Martinez, Clara Hartley, Ellie Mountford, Ellie Hacking a Eve Barnes isod.

Cyfres o ddosbarthiadau meistr yw Criw Celf, sydd yn rhoi cyfle i blant sydd wedi dangos talent neu/a diddordeb arbennig mewn celfyddyd i ddatblygu eu sgiliau a’u profiadau.

Gwahoddodd yr artist a chydlynydd addysg Thomas Goddard y grŵp i gynhyrchu ymateb deongliadol i arddangosfa Cymru yn Fenis eleni. Dywedodd Tom: “Gyda’n gilydd fe wnaethon ni ymchwilio a thrafod y gwaith, y biennale a’i gyd-destun. Roedd y bobl ifanc yn awyddus i rannu cipolwg tu ôl i’r llen o waith Sean , ac yn gwneud hynny fe’u hysbrydolwyd i wneud darn o gelf eu hunain.”

Gallwch wylio’r ffilm y tu ôl i’r llenni roedden nhw wedi’i gwneud isod. Fe aeth y grŵp ymlaen hefyd i wneud zine ar gyfer agoriad Undo Things Done yn Tŷ Pawb yn Wrecsam (2020).


Mae Cymru yn Fenis Wales in Venice yn cael ei gomisiynu a’i reoli gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae Cymru yn Fenis yn cael ei ddewis drwy alwad am gynigion. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi comisiynu artistiaid i gynrychioli Cymru fel Digwyddiad Cyfochrog yn Arddangosfa Gelf Ryngwladol La Biennale di Venezia ers 2003, gan ddathlu’r gorau o blith artistiaid newydd a sefydledig o Gymru. Mae artistiaid blaenorol yn cynnwys Bedwyr Williams, Helen Sear, James Richards a John Cale. 

Cyngor Celfyddydau Cymru yw corff cyhoeddus swyddogol y wlad ar gyfer noddi a datblygu’r celfyddydau. Pob dydd mae pobl ar hyd a lled Cymru’n mwynhau ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau. Rydym yn helpu i gefnogi a thyfu’r gweithgarwch hwn. Rydym yn gwneud hynny drwy ddefnyddio’r arian cyhoeddus sy’n cael ei ddyrannu inni gan Lywodraeth Cymru a thrwy ddosbarthu’r arian a gawn fel achos da gan y Loteri Genedlaethol. Drwy reoli a buddsoddi’r cronfeydd hyn mewn gweithgarwch creadigol, mae Cyngor y Celfyddydau’n cyfrannu at ansawdd bywyd pobl ac at lesiant diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd Cymru.

Noddir taith Undo Things Done gan yr Art Fund ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston.

Am fwy o wybodaeth am Gymru yn Fenis ewch i https://arts.wales/cy/fenis.

Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google