Tracy Davidson
Fe wnaethon ni ddal i fyny â Tracy Davidson, sydd ag un gwaith celf yn Arddangosfa Agored Tŷ Pawb o’r enw ‘Toe The Line’, a gofyn ychydig o gwestiynau iddi…
- O ble rydych chi’n dod?
Llundain, ond rydw i bellach yn byw yn Ramsgate yng Nghaint
- Ers faint ydych chi wedi bod yn arlunydd?
Rwyf wedi bod yn ei wneud am gyfnodau ers bron i 30 mlynedd ond rydw i wedi bod yn creu gwaith bob dydd ers mis Mawrth eleni.
- Sut mae’r Cyfnod Clo wedi effeithio ar y ffordd rydych chi’n gweithio?
Does gen i ddim stiwdio fawr bellach, felly rydw i wedi bod yn gweithio o’m cartref. Rwyf wedi troi ein ystafell sbâr yn stiwdio fechan. Adlewyrchwyd hyn ym maint fy ngwaith a’r prosesau rwyf wedi eu defnyddio. Dysgais fy hun i frodio â llaw yn ystod y cyfnod clo, sydd wedi fy arwain i weithio mewn ffordd hollol wahanol ac wedi arwain at rywfaint o’m gwaith cryfaf.
- Ble ydych chi’n cael y pleser mwyaf yn eich gwaith?
Rwyf wrth fy modd gyda’r ymdeimlad o heddwch a llonyddwch rwy’n ei gael, ac mae’n therapiwtig iawn.
- Pa argraff ydych chi am i’ch gwaith ei wneud ar gynulleidfaoedd?
Yn amlwg, rwyf eisiau i’m cynulleidfa hoffi fy ngwaith yn weledol ond rwyf hefyd yn gobeithio ei fod yn codi cwestiynau ac yn gwneud i bobl fod eisiau gwybod am yr hyn sydd y tu ôl i’r gwaith.