Chris Corish

Fe wnaethon ni ddal i fyny â Chris Corish, sydd â gwaith celf yn arddangosfa Tŷ Pawb Open o’r enw ‘Cambrian Coast’, a gofyn ychydig o gwestiynau iddo…

 

  • O ble rydych chi’n dod?

Cwestiwn cymhleth, ond yn gryno, rwy’n wreiddiol o Gymru ond cefais fy magu yn Lloegr, rwy’n dueddol o ddweud fy mod yn dod o Geredigion, gan mai dyma ble rwyf wedi treulio fy mywyd fel oedolyn a dyma ble mae fy nheulu wedi byw, i gadw pethau’n syml.

Y stori hir yw, mae’n siŵr nad oes arnoch chi eisiau gwybod, ond mae’n egluro pam fy mod wedi rhoi ateb mor gryno chi. Pan gefais fy ngeni, roedd fy nghyfeiriad mewn pentref yn Sir Ddinbych, ond cefais fy ngeni yn Wrecsam, fe’m magwyd yn Swydd Amwythig, Llundain a Surrey, ac rwyf wedi bod yn byw yng Ngheredigion ers 2016 gan eithrio 7 mis yn Swydd Efrog.

  • Ers faint ydych chi wedi bod yn arlunydd?

Mae’n dibynnu beth yw eich diffiniad chi o hynny, ond wnawn ni ddim dechrau’r ddadl honno eto!

Yn gryno, rwyf wedi bod yn cynhyrchu gwaith o safon werthadwy ers 2015, yn gwerthu gwaith ers 2016, ac yn arddangos gwaith ers 2015, felly tua 5 mlynedd mae’n debyg.

Astudiais Gelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ac Astudiaethau Amgueddfeydd ym Mhrifysgol Leeds.

  • Sut mae’r Cyfnod Clo wedi effeithio ar y ffordd rydych chi’n gweithio?

Mewn ffordd ryfedd, mae fy ngwaith wedi elwa o’r Cyfnod Clo, oherwydd ym mis Mawrth, roeddwn yn byw mewn stiwdio fechan yn Leeds, a phan wnaeth y Brifysgol benderfynu symud y cwrs ar-lein, galluogodd hynny i mi symud yn ôl i Geredigion, ac o ganlyniad, mae gennyf fwy o le ac amser i gynhyrchu gwaith celf.

  • Ble ydych chi’n cael y pleser mwyaf yn eich gwaith?

Nid wyf yn siŵr sut i ateb y cwestiwn hwn, ond rwy’n mwynhau chwarae â lliwiau a siapiau

  • Pa argraff ydych chi am i’ch gwaith ei wneud ar gynulleidfaoedd?

Rwy’n hoff o geisio helpu’r gynulleidfa i ddeall sut yr wyf i’n gweld lliwiau a siapiau yn y byd o’m cwmpas drwy fy ngwaith. Rwy’n sylwi ar y gydberthynas rhwng lliwiau a siapiau bob dydd. Mae cipluniau o gyfansoddiadau dydd i ddydd yn ysbrydoliaeth i mi. Mae un trywydd ymholi yn fy ngwaith yn ymwneud â’r defnydd o leoliadau hanesyddol, dogfennau archifol ac arteffactau hanesyddol. Rwyf wrth fy modd yn canfod ffyrdd newydd a diddorol o geisio ymgysylltu â’r gorffennol a’r presennol, gan ganolbwyntio’n aml ar densiynau aneglur a disylw mewn lliwiau a siapiau bob dydd, drwy eu tynnu allan o’u cyd-destun a’u hamlygu.

Ar wahân i hyn, gofynnais i ddau o’m ffrindiau agosaf sydd wedi cefnogi fy ngwaith ers sawl blwyddyn! Rwyf wedi aralleirio eu sylwadau isod:

 
Ffrind A: Rwyt ti’n defnyddio golygfeydd bob dydd ac yn creu rhywbeth arbennig ohonynt, gan herio’r gynulleidfa i feddwl y tu hwnt i’r hyn y maent yn ei weld o’u cwmpas.

Ffrind B: Mae yna rywbeth yn y ffordd yr wyt ti’n cymryd hen bethau ac yn eu hymgorffori mewn gwaith newydd. Dod â hen bethau’n fyw. Pethau a oedd wedi mynd yn angof neu a fyddai wedi cael eu taflu pe na baet wedi gwneud rhywbeth â nhw.

Dychwelyd i'r Ty Pawb Agored
Privacy Settings
We use cookies to enhance your experience while using our website. If you are using our Services via a browser you can restrict, block or remove cookies through your web browser settings. We also use content and scripts from third parties that may use tracking technologies. You can selectively provide your consent below to allow such third party embeds. For complete information about the cookies we use, data we collect and how we process them, please check our Privacy Policy
Youtube
Consent to display content from - Youtube
Vimeo
Consent to display content from - Vimeo
Google Maps
Consent to display content from - Google