Amdanom

Am bedwar deg tri o flynyddoedd, roedd Oriel Wrecsam, Canolfan Gelfyddydau Wrecsam gynt wedi'i lleoli yn llyfrgell ganolog y dref.  Dros y blynyddoedd roedd Oriel Wrecsam wedi datblygu enw da ar gyfer rhaglennu o ansawdd uchel gydag artistiaid yn cynnwys Rose Wylie, Joseph Beuys a Helen Sear ymhlith llawer o rai eraill.    

Yn 2015, symudodd y tîm celfyddydau i’r eiddo dros dro ar Stryt Caer wrth i gynlluniau ar gyfer datblygiad newydd o fewn adeilad Marchnad y Bobl ddatblygu.

Roedd Oriel Wrecsam wedi cyflwyno rhaglen oddi ar y safle cynhwysfawr yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys ArtVend (gwaith celf bach yn cael ei werthu am £1 mewn peiriannau gwerthu) a'r prosiect Cwt Bugail (gweithio gyda phobl ifanc o'r Prosiect Sêr ym Mharc Caia). Gallwch weld canlyniadau’r ddau brosiect o fewn Tŷ Pawb. 

Mae hanes Wrecsam fel tref farchnad yn allweddol i dreftadaeth y dref. Mae’r stondinau yn y farchnad a’r ardal fwyd yr un mor hanfodol i lwyddiant ac ethos y datblygiad â'r rhaglenni ymgysylltu a'r celfyddydau.

Cynhaliwyd gweithdy ail-frandio ac ailenwi yn 2017, o dan arweiniad Elfen, i archwilio’r posibiliadau ar y cyd. Roedd tri deg o fudd-ddeiliaid lleol o’r marchnadoedd, busnesau a’r cymunedau celfyddydau yn bresennol yn y gweithdy.  Cafodd tri enw posibl eu cyflwyno ar gyfer pleidlais gyhoeddus a’r enillydd oedd Tŷ Pawb.

Mae Tŷ Pawb yn anelu i fod yn adnodd diwylliannol a chymunedol sy’n croesawu pawb  - gobeithio eich bod chi'r un mor gyffrous â ni am ein dyfodol!